Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Gellir categoreiddio coetiroedd yng Nghymru yn fras fel rhai brodorol (llydanddail fel arfer) ac anfrodorol (conwydd fel arfer). Mae’r asesiad hwn yn cwmpasu coetiroedd sy’n bodloni diffiniad y Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol, sy’n cynnwys maint lleiaf o dir sydd wedi’i orchuddio (0.5 hectar). Bydd y diffiniad hwn yn cynnwys coetiroedd ar ffermydd sy’n uwchlaw’r trothwy maint, er nad yw’r rhain wedi’u nodi ar wahân yn yr asesiad. Mae grwpiau bach o goed a choed y tu allan i goetir wedi’u cynnwys mewn asesiadau ecosystem eraill, gan gynnwys tir fferm caeëdig a thir trefol.

Negeseuon allweddol 

  • Mae coetiroedd yn darparu ystod o wasanaethau a buddion ecosystemau sy’n bwysig ar gyfer llesiant. Maent yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, yn darparu pren, yn helpu i wella ansawdd aer a lleihau’r risg o lifogydd, yn atafaelu carbon, yn cyfoethogi ein diwylliant a’n treftadaeth, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer hamdden, addysg a dysgu. 
  • Mae angen gweithredu i wella gwydnwch coetiroedd presennol i bwysau fel newid hinsawdd a phlâu a chlefydau, er mwyn sicrhau bod y manteision maent yn eu darparu yn parhau yn y dyfodol.
  • Mae pren, adnodd cynaliadwy a naturiol, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i economi Cymru ac mae angen cynhyrchu mwy yng Nghymru i sicrhau mwy o fanteision. 
  • Mae gan goed a choetiroedd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd sydd wedi’u datgan yng Nghymru; mae angen i ni amddiffyn a rheoli’r hyn sydd gennym yn gadarnhaol ac ehangu gorchudd coetir.  

Asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol

Mae’r asesiad coetiroedd hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan dynnu ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc a setiau data cenedlaethol. Mae asesiadau cysylltiedig yn cynnwys tir fferm caeedig a thir trefol, sy’n ystyried coed y tu allan i goetir.

Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.

Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Mae coetiroedd Cymru yn cynnwys stoc amrywiol o goed a fflora a ffawna cysylltiedig, ond mae pwysau o ganlyniad i newid hinsawdd, plâu, clefydau, rhywogaethau goresgynnol a phori yn lleihau eu hiechyd a’u maint. Mae clefydau coed fel clefyd coed ynn a Phytophthora ramorum wedi effeithio’n sylweddol ar iechyd coed, sydd yn ei dro yn effeithio ar fioamrywiaeth coetiroedd. Mae rhywogaethau estron goresgynnol, gan gynnwys gwiwerod llwyd, ceirw estron a Rhododendron ponticum, yn parhau i niweidio ecosystemau coetiroedd. Mae pori gan geirw a da byw hefyd yn rhwystro adfywio coed a fflora daear, er y gall pori sy’n cael ei reoli, mewn rhai lleoliadau penodol, gynnal poblogaethau o adar coetir arbenigol. Mae llygredd aer, yn enwedig amonia, yn effeithio fwyfwy ar goetiroedd hynafol, er gwaethaf gostyngiadau mewn allyriadau sylffwr a nitrogen.

Mae ymdrechion i ddiogelu a gwella adnoddau coetiroedd yn cynnwys prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, cynlluniau grant adfer coetiroedd, a rheolaeth coetiroedd well trwy ddiwygiadau i’r Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru). Mae Polisi Cynllunio Cymru bellach yn gorchymyn diogelu coed a choetiroedd. Mae cynlluniau creu coetiroedd wedi cynyddu stociau coed, ac mae camau gweithredu wedi’u targedu yn mynd i’r afael â phwysau rhywogaethau estron goresgynnol a llysysyddion. Fodd bynnag, mae llai o reolaeth mewn rhai coetiroedd yn parhau i fod yn bryder. Mae datblygiadau adeiledig a seilwaith, yn enwedig ynni adnewyddadwy, hefyd yn peri risgiau i raddfa a chysylltedd coetiroedd.

Nod 2: Mae ecosystemau’n gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Asesir gwydnwch coetiroedd ar sail amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Mae coetiroedd brodorol yn dangos amrywiaeth ganolig-uchel. Yn gyffredinol, maent yn dod yn fwy aeddfed gyda mwy o gysgodi, ac eithrio lle mae clefyd coed ynn yn creu bylchau yn y canopi, sy’n cynyddu gorchudd planhigion llysieuol. Mae coetiroedd anfrodorol yn parhau i fod yn isel o ran amrywiaeth, er bod ailstocio yn gwella cymysgedd y rhywogaethau. Mae maint coetiroedd wedi cynyddu o 4.2% i 15% o dir Cymru ers 1905, yn bennaf oherwydd planhigfeydd anfrodorol yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ond mae plannu coed llydanddail wedi helpu yn ddiweddar. Fodd bynnag, i ryw raddau, bydd colledion o ganlyniad i ddatblygu ac adfer cynefinoedd yn gwrthbwyso enillion. Mae coetiroedd brodorol yn tueddu i fod yn llai ac yn fwy darniog, tra bod gan flociau anfrodorol mwy gysylltedd mewnol gwell.

Mae’r cyflwr yn gymysg, gyda chlefydau a dyddodiad nitrogen yn lleihau iechyd yr ecosystem, tra bod rheolaeth wedi’i thargedu a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol yn ei wella’n lleol. Mae’r rhan fwyaf o glystyrau mewn cyflwr canolig. Mae cysylltedd yn gwella trwy greu coetiroedd o fewn rhwydweithiau ecolegol â blaenoriaeth, er bod darnio hanesyddol yn parhau. Mae gwydnwch yn y dyfodol yn dibynnu ar blannu parhaus ond wedi’i dargedu, rheolaeth well, gan gynnwys amrywio rhywogaethau coed, ac ymdrin â phwysau o ganlyniad i newid hinsawdd, plâu, a newid defnydd tir. Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru a safonau coedwigaeth wedi’u diweddaru yn cefnogi cynnydd.

Nod 3: Lleoedd iach ar gyfer pobl, wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol

Mae coetiroedd yn cynnal iechyd pobl a lleoedd iach trwy reoleiddio’r hinsawdd, hidlo aer, a rheoli llif dŵr. Yn 2020, atafaelodd coedwigoedd Cymru 1.2 miliwn tunnell o CO₂, a rhagwelir y bydd hyn yn codi i 1.6 miliwn tunnell erbyn 2050. Mae pob coetir yn hidlo llygryddion aer – er enghraifft, roedd coetiroedd llydanddail yn hidlo llygryddion aer a ataliodd bron i 1,000 o flynyddoedd bywyd rhag cael eu colli yn 2022. Mae coetiroedd hefyd yn lleihau risgiau llifogydd a sychder drwy reoleiddio llif dŵr a chadw lleithder y pridd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cydnabod fwyfwy mewn polisi a chynllunio, gyda chanllawiau newydd yn hyrwyddo coetiroedd fel ateb ar sail natur.

Mae coetiroedd hefyd yn gwella llesiant trwy hamdden, hunaniaeth ddiwylliannol ac addysg. Yn 2021/22, gwnaed bron i 39 miliwn o ymweliadau â choetiroedd Cymru, gyda 280,000 o bobl yn elwa o fuddion iechyd. Fodd bynnag, mae mynediad yn anghyfartal gyda phroblemau symudedd a diffyg trafnidiaeth yn cyfyngu ar ddefnydd i rai grwpiau. Nod mentrau fel Coedwig Genedlaethol Cymru yw gwella hygyrchedd. Mae datblygiadau ymchwil a pholisi yn gwella dealltwriaeth o fanteision coetiroedd ac yn llywio buddsoddiad yn y dyfodol mewn atebion ar sail natur.

Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Mae coetiroedd yn cyfrannu at economi Cymru drwy gynhyrchu pren, lliniaru llifogydd, rheoli llygredd, a darparu cyfleoedd hamdden. Rhwng 2014 a 2023, roedd cyfartaledd o 1.26 miliwn tunnell o goed meddal yn cael eu tynnu bob blwyddyn, er bod rhagolygon y bydd gostyngiad o 40% erbyn 2046. Mae tynnu coed caled yn cynyddu, ond mae’r nifer sy’n cael eu defnyddio yn y farchnad yn parhau i fod yn isel. Yn 2022, cyfrannodd gwasanaethau darparu pren £614 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros, gan gefnogi dros 10,000 o swyddi. Mae cynhyrchion pren hirhoedlog yn cynnig manteision storio carbon ac economi gylchol, yn enwedig ym maes adeiladu.

Cefnogir rheolaeth gynaliadwy gan Safon Coedwigaeth y DU a chynlluniau ardystio. Mae tua 48% o goetiroedd Cymru wedi’u hardystio, gyda mwy yn cael eu rheoli o dan amodau grant. Mae strategaeth ddiwydiannol pren Llywodraeth Cymru, ‘Datblygu’r Diwydiant Pren yng Nghymru’ (2025), yn hyrwyddo cynhyrchu gwerth uchel sy’n cyd-fynd â nodau bioamrywiaeth a hinsawdd. Mae opsiynau cyllid cynaliadwy yn cael eu datblygu i hyrwyddo atebion ar sail natur ar gyfer rheoli llifogydd a llygredd. Mae heriau’n parhau o ganlyniad i bwysau datblygu a llai o reolaeth, ond mae mentrau polisi a chyllido yn helpu i alinio defnydd coetiroedd ag egwyddorion economaidd adfywiol.

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

At ei gilydd, ychydig o newidiadau sylweddol a fu ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 o ran ysgogwyr a phwysau, gwydnwch coetiroedd, gwasanaethau a buddion ecosystemau, a chynnydd tuag at rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae hyn i’w ddisgwyl o ystyried hirhoedledd coetiroedd, yr amser y mae’n ei gymryd i lawer o ysgogwyr newid gynhyrchu ymateb, ac argaeledd tystiolaeth o effaith yr ymatebion hyn. Mae’r dirywiad parhaus yn iechyd coed o ganlyniad i blâu a chlefydau yn un o’r prif bryderon, yn ogystal â newid hinsoddol, gyda thystiolaeth o effeithiau mwy fel cwympo gan wynt oherwydd digwyddiadau tywydd eithafol. Mae llygredd nitrogen sy’n effeithio ar ecosystemau coetiroedd hefyd yn bryder cynyddol. Yn gadarnhaol, gyda chyhoeddiad strategaeth ddiwydiannol pren newydd gan Lywodraeth Cymru yn 2025 a dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, a fydd yn cefnogi gwell rheolaeth o goetiroedd a mwy o raglenni creu coetiroedd, mae potensial ar gyfer gwelliant cadarnhaol tuag at gyflawni rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Darllenwch ein hasesiad llawn o ecosystemau coetiroedd yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

 

Tystiolaeth sylfaenol

Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu’n well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:

  • ysgogwyr newid a phwysau ar goetiroedd yng Nghymru
  • gwydnwch ecosystemau coetiroedd yng Nghymru
  • y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o goetiroedd a sut mae newidiadau yng nghyflwr coetiroedd yn effeithio ar lesiant

Ewch i’n porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 i weld y dystiolaeth fanwl.

Gweld fersiwn sgrin lawn

 

Anghenion tystiolaeth

Rydym wedi nodi anghenion tystiolaeth sy’n gysylltiedig â gwella dealltwriaeth o sut i gyflymu ymaddasu coetiroedd i wella gwydnwch – er enghraifft, i newid hinsawdd a phlâu a chlefydau. Mae galw am well data ar ddosbarthiad ac effaith plâu a chlefydau nad ydynt yn destun rheolaethau cwarantin, yn ogystal ag amrywiaeth enetig rhywogaethau coed. Mae angen tystiolaeth hefyd ar effeithiolrwydd cytrefu naturiol, y newid net mewn gorchudd coetir, a chyflwr coetiroedd hynafol, gan gynnwys Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol.

Mae effaith gorfaethu a defnydd tir cyfagos ar fflora llawr coetiroedd, a rôl amrywiaeth rhywogaethau coed mewn cynhyrchiant coetiroedd, yn flaenoriaethau pellach. Mae angen meintioli’r cyfaddawdau a’r synergeddau mewn ecosystemau sy’n gysylltiedig ag ehangu coetiroedd, yn enwedig mewn perthynas â newid defnydd tir ac addasu i’r hinsawdd. Mae angen dulliau dibynadwy, gan gynnwys arsylwi ar y ddaear a mesurau ar y ddaear, i fesur gorchudd a chyflwr coetiroedd yn fwy cynhwysfawr, asesu tueddiadau, a monitro effeithiolrwydd adfer. Mae’r anghenion tystiolaeth hyn yn hanfodol ar gyfer llywio penderfyniadau rheolaeth gynaliadwy, polisi a gweithredol ar gyfer coetiroedd Cymru.

Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru

Mae prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru wedi hwyluso cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol a chonwydd anfrodorol (yn ogystal â phori cadwraeth ac adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol).

Amdanom ni | Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru

 

Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig

Hyrwyddo a chyfathrebu sut y gall coetiroedd ddarparu atebion ar sail natur ar gyfer lliniaru newid hinsawdd, lliniaru risg llifogydd a sychder, a lliniaru llygredd aer. Mae Safon Coedwigaeth y DU (2024) yn egluro manteision amlbwrpas coetiroedd, ac mae canllawiau ymarfer newydd y safon ar reoli coetiroedd i leihau’r perygl o lifogydd a chreu a rheoli coetiroedd glannau afon (2024) wedi’u cyhoeddi.

Safon Coedwigaeth y DU – Forest Research

 

Datblygu’r Diwydiant Pren yng Nghymru 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datblygu’r Diwydiant Pren yng Nghymru, sef strategaeth i’r diwydiant pren. Fel y nodwyd yn y strategaeth: “Wrth wraidd y strategaeth hon mae ymdeimlad o weithio gyda’n gilydd i oresgyn yr heriau ac i fanteisio ar y cyfleoedd i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol i gynyddu gwerth ein pren – o’r goedwig i’r cynnyrch terfynol.”

Datblygu’r Diwydiant Pren yng Nghymru: Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer Pren Llywodraeth Cymru

 

Diweddarwyd ddiwethaf