SoNaRR 2025 Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025
Mae adnoddau naturiol yn sail i’n llesiant ac ansawdd ein bywyd, ac yn sail i ecosystemau iach a chadarn. Maen nhw’n darparu ein bwyd, ein haer a’n dŵr glân, yn danwydd ar gyfer ein diwydiannau, ac yn creu swyddi.
Mae’r asesiad hwn yn gwerthuso cynnydd Cymru tuag at nod 1 o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: diogelu a gwella stociau o adnoddau naturiol. Mae’n cymryd golwg eang ar adnoddau naturiol, gan gynnwys rhywogaethau gwyllt, aer, dŵr a phridd, ac nid yw wedi’i gyfyngu i stociau sy’n werthfawr yn economaidd (sy’n cael eu hystyried yn bennaf yn asesiad nod 4).
Er gwaethaf sylfeini deddfwriaethol cryf, gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, nid yw Cymru eto’n cyflawni’r nod hwn. Mae adnoddau naturiol yn parhau i gael eu diraddio. Mae tystiolaeth yn dangos pwysau eang ar draws ecosystemau, gan gynnwys tir yn cael ei ddefnyddio a’i reoli mewn ffordd anghynaliadwy, a llygredd aer, dŵr a phridd. Mae newid hinsawdd yn dwysáu’r pwysau hyn, ac mae digwyddiadau tywydd eithafol amlach yn effeithio ar sefydlogrwydd a gwytnwch adnoddau. Mae rhywogaethau estron goresgynnol, plâu, a chlefydau yn bygwth bioamrywiaeth a swyddogaeth ecosystemau ymhellach.
Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, gan gynnwys gwaith adfer mawndiroedd, deddfwriaeth ansawdd aer gwell, a gwaith adfer llygredd etifeddol drwy Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r ymdrechion hyn yn ddigonol eto i wrthdroi tueddiadau hirdymor.
Mae angen newid trawsnewidiol—ar draws systemau bwyd, ynni, tai a thrafnidiaeth—i adfywio adnoddau naturiol a lleihau ôl troed ecolegol byd-eang Cymru. Mae hyn yn gofyn am gamau integredig ar draws sectorau, gwell monitro ac ymchwil, ac ymgysylltu â’r gymuned. Yn fwyaf sylfaenol, mae’r trawsnewidiad hwn yn gofyn am newidiadau yn y ffordd rydym yn gwerthfawrogi ac yn gweld byd natur.
Mae’r asesiad nod 1 cenedlaethol hwn yn cyfuno tystiolaeth o bob rhan o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 ac yn cyfeirio at asesiadau cysylltiedig o dan nodau 2, 3 a 4. Mae’n amlinellu cyfleoedd i weithredu ac yn tynnu sylw at feysydd â blaenoriaeth ar gyfer diogelu a gwella adnoddau naturiol Cymru.
Ein gweledigaeth
Byddai llwyddiant yn golygu bod Cymru yn defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd sy’n galluogi iddynt gynyddu a gwella o ran ansawdd dros amser, nid i ddirywio. Yn y weledigaeth hon, mae ein hecosystemau yn gadarn ac rydym yn gallu rheoleiddio, cynnal a darparu adnoddau naturiol sydd o fudd i bobl Cymru. Mae ein heconomi a’n diwylliant nid yn unig yn amddiffyn adnoddau naturiol ac ecosystemau rhag pwysau a fyddai’n eu diraddio, ond hefyd yn gweithio i gynyddu nifer yr adnoddau naturiol yng Nghymru a’u hansawdd a’r rhai a ddefnyddiwn o bob cwr o’r byd. Byddai’r defnydd o adnoddau na ellir ei adnewyddu yn cael ei reoli i leihau effeithiau ar ecosystemau ac i symud tuag at ddewisiadau amgen adnewyddadwy.
Bydd cyflawni’r weledigaeth hon yn hyrwyddo nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn cyfrannu at gynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol ar gyfer: Lefelau llygredd nitrogen deuocsid yn yr aer (dangosydd 4), Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd (dangosydd 13), Ôl-troed byd-eang Cymru (dangosydd 14), Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru (dangosydd 43), Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru (dangosydd 44), Y ganran o’r cyrff dŵr wyneb, a’r cyrff dŵr daear, sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan (dangosydd 45).
Negeseuon allweddol
Nid yw Cymru eto’n diogelu nac yn gwella stociau o adnoddau naturiol – mae angen trawsnewid
Er gwaethaf fframweithiau polisi megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae tystiolaeth yn dangos nad yw Cymru yn diogelu nac yn gwella ei hadnoddau naturiol yn ddigonol. Mae dirywiad rhywogaethau, dirywiad cynefinoedd a llygredd aer, pridd a dŵr yn dangos nad yw’r ymdrechion presennol yn llwyddo i wrthdroi dirywiad na gwella stociau adnoddau. Mae angen i ni drawsnewid ein systemau bwyd, tai, trafnidiaeth, ac ynni fel nad ydyn nhw’n diraddio ein hadnoddau naturiol mwyach.
Mae pwysau llygredd a defnydd tir yn tanseilio ansawdd adnoddau
Mae rheolaeth amaethyddol ddwys, datblygu trefol, dŵr gwastraff a thrafnidiaeth yn gyfranwyr mawr at lygredd ledled Cymru. Mae llygredd maethynnau, allyriadau amonia, a halogion cemegol yn diraddio priddoedd, dŵr ac ansawdd aer. Mae’r pwysau hyn yn lleihau cydnerthedd ecosystemau ac ansawdd adnoddau naturiol.
Mae newid hinsawdd yn dwysáu’r risgiau i adnoddau naturiol
Mae patrymau glawiad newidiol, digwyddiadau tywydd eithafol a thymereddau sy’n codi yn rhoi ein hadnoddau naturiol dan straen cynyddol. Mae mawndiroedd, sy’n storio llawer o garbon ac yn rheoleiddio dŵr yn arbennig o agored i niwed. Mae newid hinsawdd hefyd yn gwaethygu effeithiau pwysau gan rywogaethau estron goresgynnol, plâu, a chlefydau i fygwth bywyd gwyllt, gwytnwch ecosystemau, a chynhyrchiant sy’n werthfawr yn economaidd ymhellach. Heb addasu a mesurau lliniaru wedi’u targedu, bydd newid hinsawdd yn erydu faint ac ansawdd adnoddau naturiol Cymru ymhellach.
Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ond mae angen i newid fod ar lefel y system
Mae mentrau fel adfer mawndiroedd, Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru, hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau, a deddfwriaeth ansawdd aer yn dangos camau cadarnhaol tuag at ddiogelu adnoddau. Fodd bynnag, nid yw’r camau gweithredu hyn ar y raddfa na’r cyflymder y mae eu hangen i wrthdroi tueddiadau hirdymor. Mae prosiectau adfer a diogelu yn hanfodol, ond rhaid iddynt ddod law yn llaw â newidiadau dyfnach yn y systemau sy’n sbarduno dirywiad er mwyn diogelu ein hadnoddau naturiol.
Anghenion tystiolaeth
Mae bylchau tystiolaeth yn llesteirio’r camau gweithredu a’r gwaith monitro effeithiol y mae eu hangen i asesu a chyflawni’r nod o ddiogelu a gwella adnoddau naturiol (nod 1). Mae asesiadau ecosystem ac adnoddau naturiol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn nodi anghenion tystiolaeth mewn perthynas â nod 1, sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Iechyd pridd, erydiad, halogiad, a stociau carbon;
- Bioamrywiaeth, maint, cyflwr, a chysylltedd llawer o gynefinoedd Cymru;
- Tystiolaeth ynghylch argaeledd dŵr, ansawdd dŵr, a risg llifogydd yn wyneb newid hinsawdd, newid o ran defnydd tir, a galw cynyddol;
- Effeithiau newid hinsawdd ar draws llawer o adnoddau naturiol ac ecosystemau;
- Dosbarthiad, effaith, a rheolaeth rhywogaethau estron goresgynnol;
- Effeithiau amgylcheddol datblygiadau ynni adnewyddadwy ac arferion defnydd tir;
- Pwysau ac effeithiau gweithgareddau dynol yn yr amgylchedd morol;
- Monitro lleol a chenedlaethol gwell o ansawdd aer a’i effeithiau ar iechyd pobl ac ecosystemau.
Mae’r bylchau tystiolaeth hyn yn cyfyngu ar y gallu i asesu cynnydd a dylunio ymyriadau effeithiol. Mae mynd i’r afael â’r anghenion tystiolaeth hyn yn hanfodol er mwyn diogelu a gwella adnoddau naturiol.
Ffynonellau tystiolaeth allweddol
Archwiliwch rywfaint o’r dystiolaeth yr ydym wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:
- Nod 1 Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020
- Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023
- Economeg bioamrywiaeth: Adolygiad Dasgupta
- Deall ôl-troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau defnydd Cymru.
- Adroddiad Cyntaf Rheoliadau Cynefinoedd 9A ar gyfer Cymru 2025 [ar waith]
- Cyfrifon cyfalaf naturiol y DU: 2024
- Llesiant Cymru: Dangosyddion Cenedlaethol
- Archwiliad Iechyd y Blaned 2025
Gweler asesiadau adnoddau naturiol aer, dŵr a phridd Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 am dystiolaeth allweddol bellach sy’n berthnasol i nod 1.
Astudiaethau achos
Coedwigoedd Glaw Celtaidd
Mae prosiect y Coedwigoedd Glaw Celtaidd wedi hwyluso’r gwaith o gael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol a chonwydd nad ydynt yn frodorol, yn ogystal â phori er lles cadwraeth, a gwaith i adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol.
Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru | Parc Cenedlaethol Eryri
Mynd i’r afael â llygredd dŵr mwyngloddiau metel
Ers 2020, mae Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi ymchwilio i dros 50 o safleoedd, ac mae’n datblygu mesurau adferol hirdymor i leihau llygredd o fwyngloddiau metel segur.
Llygredd dŵr mwyngloddiau metel – Citizen Space Cyfoeth Naturiol Cymru – Citizen Space
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yw’r cynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawndiroedd yng Nghymru rhwng 2020 a 2025. Mae camau adfer ar dros 1,650 hectar yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yn golygu bod y rhaglen wedi rhagori ar ei thargedau adfer cychwynnol, sef adfer rhwng 600 a 800 hectar o dir cyhoeddus a phreifat bob blwyddyn.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd