Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae sbardunau newid yn ffactorau naturiol neu ffactorau a achosir gan bobl sy’n achosi newidiadau i adnoddau naturiol ac ecosystemau. Gallant fod naill ai’n uniongyrchol, gan achosi newid ffisegol y gellir ei fesur, neu’n anuniongyrchol, sy’n llai mesuradwy o ran achosiaeth. Mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn gofyn am well dealltwriaeth o’r sbardunau hyn er mwyn gwerthfawrogi’n llawn achosion sylfaenol rheolaeth anghynaliadwy.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd a’i dadansoddwyd yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 ynghylch prif sbardunau newid amgylcheddol a’r pwysau sy’n gysylltiedig â hwy yn ein helpu i ganolbwyntio ar y prif bwysau sy’n effeithio ar stociau adnoddau naturiol, gwydnwch yr ecosystemau ledled Cymru, a’r manteision, neu’r gwasanaethau, y mae’r ecosystemau’n eu darparu.

Yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, rydym yn parhau i ddefnyddio’r pum sbardun newid uniongyrchol sy’n cael eu cydnabod yn eang, sef: newid hinsawdd; defnydd uniongyrchol; rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau; rheoli a newid defnydd o’r tir a’r môr; a llygredd.

Mae sbardunau anuniongyrchol yn cynnwys newidiadau demograffig, economaidd, cymdeithasol-wleidyddol, diwylliannol ac ymddygiadol, a thechnolegol. Er bod datgysylltiad cymdeithasol oddi wrth natur yn ffactor, mae’n cael ei atgyfnerthu’n sylfaenol gan fodelau economaidd a systemau cynhyrchu llywodraethol sy’n allanoli costau amgylcheddol. Mae’r datgysylltiad hwn yn amharu ar ein dibyniaeth ar brosesau naturiol, gan gyfrannu at batrymau defnydd anghynaliadwy sy’n cyflymu colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd a llygredd.

Sbardunau uniongyrchol newid amgylcheddol

Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am sbardunau newid amgylcheddol yng Nghymru. Disgrifir yn fanwl y pwysau y mae’r sbardunau uniongyrchol hyn yn eu rhoi ar ein hecosystemau a’n hadnoddau naturiol ym mhob asesiad ecosystem ac adnodd naturiol.

Sbardunau anuniongyrchol newid amgylcheddol

Ystyrir sbardunau anuniongyrchol drwy gydol Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, yn enwedig o fewn asesiad Nod 3 ac asesiad Nod 4.

Gallwch ddysgu mwy am sbardunau newid uniongyrchol ac anuniongyrchol ar raddfa fyd-eang yma: Thematic Assessment Report on the Interlinkages among Biodiversity, Water, Food and Health | Ysgrifenyddiaeth IPBES

Mae NatureScot wedi cyhoeddi crynodeb defnyddiol: Understanding the Indirect Drivers of Biodiversity Loss in Scotland – A Summary | NatureScot

 

Diweddarwyd ddiwethaf