Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae ecosystem yr ymylon arfordirol yn cynnwys y cynefinoedd o amgylch arfordir Cymru. Y tri chynefin mwyaf helaeth yw twyni tywod, morfeydd heli a chlogwyni môr. Morlynnoedd heli neu arfordirol a graean bras yw’r lleill.

Negeseuon allweddol 

  • Mae cynefinoedd arfordirol yn darparu bioamrywiaeth unigryw a gwasanaethau gwerthfawr, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd, carbon glas, hamdden ac iechyd. Gellid datblygu’r gwasanaethau hyn fel atebion ar sail natur ar gyfer pobl ac economi Cymru drwy adfer a gwella cynefinoedd. 
  • Mae colli a darnio cynefinoedd, cyflwr gwael a cholli bioamrywiaeth yn effeithio ar gynefinoedd arfordirol. Mae’r prif achosion yn cynnwys rheolaeth amaethyddol anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol, a llygredd aer a dŵr. 
  • Bydd newid hinsawdd yn arwain at bwysau cynyddol, gan gynnwys codiad yn lefel y môr a chyfraddau erydu uwch. Mae rhai cynefinoedd yn gallu treiglo’n ôl i mewn i’r tir yn naturiol, gan ymateb i newid, ond mewn llawer o achosion mae’r cynefinoedd arfordirol wedi’u cyfyngu gan ddefnydd tir arall.
  • Yn ddiweddar, dangosodd gwaith ar dwyni tywod fod adferiad llwyddiannus o systemau twyni tywod ar raddfa’r dirwedd ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Bellach, mae angen rhaglenni adfer arnom ar gyfer cynefinoedd morfeydd heli a chlogwyni môr a fydd o fudd i fioamrywiaeth ac yn cynyddu gwydnwch, yn atafaelu carbon ac yn lliniaru llifogydd yn naturiol. 
  • Mae llawer o bwysau, gan gynnwys newid hinsawdd ac ansawdd dŵr, yn gofyn am ddull strategol ac amlochrog i wella gwydnwch ecosystemau. Mae cyfleoedd allweddol yn cynnwys cynllunio defnydd tir, mynd i’r afael â nifer o ffynonellau llygredd, a sicrhau’r canlyniadau mwyaf posibl o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy 

Mae’r asesiad ymylon arfordirol hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan ddwyn ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol, a phrosiectau cydweithredol fel megis Twyni Byw LIFE a Twyni ar Symud. Mae’r asesiad hwn wedi’i gysylltu’n agos â’r asesiadau ecosystem morol a ffermdir caeëdig

Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi. 

Nod 1:  Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Mae bioamrywiaeth mewn ecosystemau ymylon arfordirol yn dirywio, gyda sawl rhywogaeth bellach wedi diflannu yng Nghymru, gan gynnwys llysiau’r llymarch a rhisglyn y morfa. Mae llawer o rywogaethau wedi’u cyfyngu i un lleoliad neu gynefinoedd penodol, fel y saerwenynen fawr a rhawn yr ebol. Mae eraill, fel tafolen y traeth a thegeirian y fign galchog, mewn cyflwr anffafriol oherwydd dirywiad cynefinoedd. Mae rhywogaethau estron goresgynnol, plâu a chlefydau yn parhau i effeithio ar fioamrywiaeth frodorol. Er gwaethaf ymdrechion i’w dileu o dan brosiectau fel Twyni Byw LIFE, mae rhywogaethau estron goresgynnol yn parhau i fod yn gyffredin, gyda newid hinsawdd yn debygol o waethygu’r effeithiau hyn. Yn y cyfamser, mae clefydau fel mycsomatosis, clefyd gwaedlifol cwningod a ffliw adar wedi achosi gostyngiadau ym mhoblogaethau cwningod (sy’n bwysig ar gyfer cynnal cynefinoedd twyni tywod) ac adar môr.

Mae llygredd aer, dŵr a phridd hefyd yn bygwth ymylon arfordirol. Mae dyddodiad nitrogen yn fwy na’r lefelau diogel mewn cynefinoedd twyni tywod, clogwyni môr a morfeydd heli, a all newid llystyfiant a lleihau ansawdd y cynefin. Mae llygredd dŵr o faethynnau, halogion a sbwriel morol yn parhau, gyda morfeydd heli a morlynnoedd yn arbennig o agored i niwed. Mae safleoedd tirlenwi hanesyddol ger yr arfordir yn peri risgiau parhaus gyda lefelau’r môr yn codi. Mae tueddiadau llygredd pridd yn dirywio, a disgwylir i newidiadau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd – fel mwy o stormydd a chodiad yn lefel y môr – ddwysáu’r pwysau hyn. Mae prosiectau fel Twyni Byw LIFE, Twyni ar Symud, Cysylltu’r Arfordir, a Thir a Môr Llŷn wedi gwneud rhywfaint o waith i adfer cynefinoedd a gwella amodau rhywogaethau, gan gyflawni camau cadarnhaol tuag at ddiogelu adnoddau naturiol o fewn ecosystem yr ymylon arfordirol.

Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Mae ecosystemau ymyl arfordirol yn dangos gwydnwch canolig ar y cyfan, ond mae pwysau’n achosi dirywiad o ran amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd. Mae amrywiaeth yn dirywio mewn twyni tywod, morfeydd heli a chlogwyni môr oherwydd gorbori a thanbori, sefydlogi a llygredd. Mae morlynnoedd arfordirol yn wynebu colli rhywogaethau a newidiadau cymunedol. Er bod rhai cynefinoedd yn elwa o reolaeth weithredol, mae eraill yn brin o ymyrraeth ddigonol. Mae gwydnwch yn y dyfodol yn ansicr, gyda newid hinsawdd, twristiaeth a rhywogaethau goresgynnol yn peri bygythiadau parhaus. Efallai y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cynnig gwelliannau, ond mae hyder yn parhau i fod yn isel.

Mae maint cynefinoedd yn sefydlog yn gyffredinol ond mae wedi dirywio’n hanesyddol oherwydd datblygiad, erydu a choedwigo hanesyddol. Mae codiad yn lefel y môr a gwasgfa arfordirol yn bygwth colli cynefinoedd yn y dyfodol, yn enwedig ar gyfer morfeydd heli a thwyni tywod. Asesir bod cyflwr yn isel ar draws yr holl gynefinoedd, gyda llygredd, gorbori a thanbori, ac olyniaeth llystyfiant yn cyfrannu at gyflwr gwael. Mae cysylltedd hefyd yn isel, gyda darnio o amaethyddiaeth a datblygiad. Mae prosiectau adfer wedi gwella cysylltedd lleol, ond mae tueddiadau’r dyfodol yn awgrymu dirywiad pellach heb gamau gweithredu parhaus. Mae prosiectau fel Twyni Byw LIFE, Twyni ar Symud a Chysylltu’r Arfordir wedi gwella gwydnwch trwy waith adfer cynefinoedd sydd wedi’i dargedu a rheoli tir yn well.

Nod 3: Lleoedd iach i bobl, wedi’u diogelu rhag risg amgylcheddol

Mae ecosystemau ymylon arfordirol yn darparu gwasanaethau hanfodol sy’n amddiffyn iechyd pobl. Mae morfeydd heli a thwyni tywod yn lleihau’r perygl o lifogydd ac yn storio carbon, gan helpu i liniaru newid hinsawdd. Mae morfeydd heli Cymru yn storio dros 7,700 tunnell o garbon yn flynyddol. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn hidlo llygryddion aer, gan gael gwared ar 850,000 kg yn 2023, ac yn puro dŵr trwy amsugno maethynnau a metelau trwm. Mae gwasanaethau peillio o dwyni tywod a morfeydd heli yn cefnogi cynhyrchu cnydau a bioamrywiaeth. Mae adfer gwastraff a phuro dŵr yn gwella ansawdd yr amgylchedd ymhellach ac yn lleihau costau trin.

Mae’r ecosystemau hyn hefyd yn cefnogi gwella iechyd trwy wasanaethau hamdden a diwylliannol. Roedd dros 21 miliwn o ymweliadau ag ymylon arfordirol yn 2021/22, gan gynhyrchu £70 miliwn mewn buddion iechyd. Mae prosiectau fel Twyni Byw LIFE yn cyfrannu £26 miliwn yn flynyddol i economïau lleol ac yn cefnogi cannoedd o swyddi. Mae ardaloedd arfordirol yn cynnig gwerth ysbrydol ac addysgol, gyda morfeydd heli a thwyni tywod yn ysbrydoli celf ac ymchwil. Er gwaethaf amddifadedd economaidd-gymdeithasol mewn rhai trefi arfordirol, mae’r amgylchedd ffisegol yn parhau i fod yn ffynhonnell llesiant. Mae mentrau fel CoastSnap a chynllunio addasu ar hyd y draethlin yn ymgysylltu â chymunedau ac yn gwella mynediad at atebion ar sail natur.

Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Mae ecosystemau ymyl arfordirol yn cefnogi gwydnwch economaidd trwy amddiffyniad naturiol rhag llifogydd, puro dŵr, a chynhyrchion amaethyddol gwerth uchel. Mae morfeydd heli yn amddiffyn 2,000 hectar o dir ffermio ac yn lleihau llygredd maethynnau. Mae pori ar forfeydd heli a thwyni yn cynhyrchu cig o’r radd flaenaf, tra bod bridiau da byw a hadau planhigion prin yn cyfrannu adnoddau genetig gwerthfawr. Mae amaethyddiaeth gynaliadwy, pan gaiff ei rheoli’n briodol, yn gwella bioamrywiaeth a phrosesau atafaelu carbon. Fodd bynnag, mae gorbori a choedwigo hanesyddol yn parhau i ddirywio cynefinoedd, ac mae tueddiadau’r dyfodol yn dibynnu ar weithredu’n effeithiol gynlluniau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

Mae twristiaeth a hamdden yn cynnig cyfleoedd economaidd ond maent hefyd yn peri pwysau trwy sathru a thaflu sbwriel. Mae datblygu arfordirol a seilwaith amddiffyn rhag llifogydd yn cyfrannu at golli a darnio cynefinoedd. Mae atebion ar sail natur, fel adfer morfeydd heli, yn cynnig cyd-fanteision ar gyfer addasu i’r hinsawdd ac adfywio ecosystemau. Mae prosiectau fel Ffermio Bro a Chig Eidion Rhostir Sir Benfro yn dangos sut y gall ffermio cydweithredol gefnogi bioamrywiaeth ac ymgysylltiad cymunedol. Gyda 42 miliwn o ymweliadau hamdden bob blwyddyn, mae gan dwristiaeth gynaliadwy y potensial i ariannu adferiad ecosystemau ac adeiladu gwydnwch, os caiff ei rheoli’n gyfrifol.

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae tystiolaeth newydd o fapio llystyfiant graean bras, twyni tywod dethol a morfeydd heli wedi gwella’r gronfa wybodaeth sydd gennym ar gyfer cefnogi rheoli cynefinoedd arfordirol. Mae’r data newydd hyn yn gwella dealltwriaeth o ddeinameg erydu a chronni ac yn llywio rheolaeth yn y dyfodol. Mae adroddiad newydd ar wasgfa arfordirol wedi modelu ei maint o amgylch arfordir Cymru, ochr yn ochr ag adroddiadau ychwanegol sy’n archwilio effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd arfordirol. 

Mae’r rhaglen Rhwydweithiau Natur, a lansiwyd yn 2021, wedi cyflawni rheoli cynefinoedd wedi’i dargedu ar safleoedd statudol, gan wella cyflwr a chysylltedd ardaloedd gwarchodedig a chefnogi rhwydweithiau ecolegol mwy gwydn. Mae rheoli rhywogaethau estron goresgynnol hefyd wedi’i gryfhau, yn enwedig ar safleoedd twyni tywod, trwy brosiect Ar Ôl LIFE Twyni Byw LIFE a chyllid Rhwydweithiau Natur. Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol hyn, mae pwysau dyddodiad nitrogen ac amonia yn parhau i fod yn uchel iawn, gan beri bygythiad parhaus i gynefinoedd ymylon arfordirol. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn lansio yn 2026, yn cynnig cyfle addawol i ddod â mwy o gynefinoedd arfordirol dan reolaeth gadarnhaol.

Darllenwch ein hasesiad llawn o ecosystem yr ymylon arfordirol yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025. 

 

Tystiolaeth sylfaenol

Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:

  • sbardunau newid a phwysau ar ymylon arfordirol yng Nghymru
  • gwydnwch ecosystemau ymylon arfordirol yng Nghymru
  • y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o ymylon arfordirol a sut mae newidiadau yng nghyflwr ymylon arfordirol yn effeithio ar lesiant

Cewch fynediad i’r dystiolaeth fanwl drwy ein porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Gweld fersiwn sgrin lawn.

Anghenion tystiolaeth

Mae ystod eang o anghenion tystiolaeth wedi’u nodi i gefnogi rheolaeth gynaliadwy o ymylon arfordirol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys data wedi’i ddiweddaru ar faint a chyflwr cynefinoedd allweddol fel twyni tywod, morfeydd heli, clogwyni môr, graean bras a morlynnoedd, ynghyd â gwell dealltwriaeth o newid a gwydnwch cynefinoedd. Mae effeithiau newid hinsawdd yn bryder mawr, ac mae angen tystiolaeth ar symud cynefinoedd yn ôl tua’r tir, cyllidebau gwaddod, ac effeithiau patrymau tymheredd a glawiad sy’n newid ar systemau arfordirol.

Mae angen ymchwil bellach i ddeall y gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan ymylon arfordirol, gan gynnwys rôl morfeydd heli wrth gynnal poblogaethau pysgod, amddiffyn rhag llifogydd, a darparu atebion ar sail natur. Mae angen ymchwilio ymhellach i effaith pwysau dynol fel amaethyddiaeth a hamdden hefyd. Dylid nodi cyfleoedd adfer a chysylltu i wrthdroi darnio cynefinoedd. Yn olaf, mae effeithiau hirdymor llygredd cemegol a maethynnau ar ecosystemau arfordirol yn parhau i fod yn fwlch tystiolaeth hollbwysig, yn enwedig mewn perthynas â morfeydd heli.

Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.

 

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Prosiect Cysylltu’r Arfordir

Roedd prosiect ‘Cysylltu’r Arfordir’ Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ariannwyd gan y rhaglen Rhwydweithiau Natur, yn gynllun rheoli tir a oedd yn cynnig cyllid ar gyfer creu a chynnal cynefinoedd bywyd gwyllt ar hyd arfordir Sir Benfro. Mae’r prosiect yn darparu taliadau am waith cyfalaf ar gyfer rheoli glaswelltiroedd arfordirol a rhostiroedd, ond mae hefyd yn cynnwys cynefinoedd eraill fel glaswelltiroedd niwtral yng nghyffiniau’r arfordir.

Cysylltu’r Arfordir – Tirweddau Cymru

 

Tir a Môr

Ymgymerodd a chyflawnodd prosiect ‘Tir a Môr Llŷn’ â rhaglen o ymyriadau rheoli tir i wella cysylltedd a gwydnwch y llain arfordirol ar Ben Llŷn. Roedd hyn yn cynnwys newidiadau mewn cyfundrefnau pori i alluogi planhigion i flodeuo a gosod hadau a chyflwyno ffensys a chyflenwad dŵr i alluogi gwartheg i bori’r llethr arfordirol.  Roedd y cynllun Tir a Môr yn cynnig taliadau am ganlyniadau ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau, ac roedd llawer o hyn o fewn cynefinoedd ar y llethrau arfordirol. Gwelwyd gwelliannau cadarnhaol o ran natur y tair fferm yn y cynllun a rhoddwyd gwybod i nifer o randdeiliaid am gwmpas a photensial taliadau ar gyfer prosiectau canlyniadau.

Tir a Môr | Pen Llŷn a’r Sarnau

Prosiectau Twyni Byw LIFE a Thwyni ar Symud

Parhaodd prosiectau Twyni Byw LIFE a Thwyni ar Symud tan 2024. Mae’r prosiectau hyn yn parhau i ddarparu budd i ecosystemau’r ymylon arfordirol (twyni tywod yn benodol). Mae cynefin wedi’i adfer drwy greu amodau deinamig drwy ddulliau mecanyddol, cael gwared ar brysgwydd, mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol, gosod neu wella seilwaith pori, cwympo conwydd, a chreu cynefin olynol cynnar.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Twyni Byw LIFE

Twyni ar Symud

Diweddarwyd ddiwethaf