Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae ecosystemau sy'n seiliedig ar ddŵr croyw yn digwydd lle bynnag y mae glaw, dŵr eira sy'n toddi neu ddŵr daear yn casglu o fewn afonydd a nentydd, dyfroedd llonydd, neu gorsydd, ffeniau, corsydd pori, gwlyptiroedd a gorlifdiroedd cysylltiedig.

Negeseuon allweddol

  • Mae ecosystemau dŵr croyw yn darparu gwasanaethau ecosystemau pwysig, gan gynnwys dŵr yfed, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, lliniaru effeithiau llifogydd a sychder, gwaredu gwastraff, pysgodfeydd a hamdden. Fodd bynnag, mae eu gallu i wneud hynny yn cael ei beryglu fwyfwy.
  • Nid yw gwydnwch ecosystemau dŵr croyw wedi gwella ers 2020, ac mae rhai rhywogaethau cyffredin yn profi dirywiad pellach; rhagwelir y bydd eogiaid wedi diflannu'n lleol o rai o afonydd Cymru erbyn 2030. Mae pwysau enfawr o ganlyniad i newid hinsawdd, llygredd gwledig a threfol, addasiadau ffisegol, newidiadau i lif, a rhywogaethau estron goresgynnol.
  • Mae digwyddiadau tywydd eithafol amlach a thymheredd cynyddol yn peri risg ddifrifol i ddyfroedd croyw, gyda llifogydd a sychder yn achosi dirywiad mewn cynefinoedd, rhywogaethau’n cael eu golchi i ffwrdd, newidiadau yn argaeledd bwyd, newidiadau yng nghyfansoddiad rhywogaethau, a rhywogaethau'n cael eu gadael i fynd yn sownd.
  • Mae prosiectau adfer ledled Cymru yn dangos effaith gadarnhaol ymyriadau fel adfer graean a chlogfeini, rhoi pren mawr mewn afonydd, cael gwared ar amddiffynfeydd glannau ac argloddiau, ailddolennu rhannau wedi'u sythu, creu coridorau afonydd coediog, ac ymdrin â rhwystrau. At ei gilydd, mae 854 km o afonydd wedi eu gwella, eu gwarchod neu eu hadfer ers 2020 a disgwylir i hyn barhau i'r dyfodol.
  • Rhaid i ni fabwysiadu dull cydweithredol o reoli dalgylchoedd ar raddfa tirwedd, gan sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn darparu ar gyfer dŵr croyw a gwella’r ffordd rydym yn rheoleiddio cynefinoedd sy’n dirywio. Yn y pen draw, mae hyn yn dibynnu ar ymwybyddiaeth cymdeithas o'r amgylchedd ac effaith ein hymddygiadau.

Asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Mae'r asesiad dŵr croyw hwn yn un o wyth asesiad ecosystem a thri asesiad adnoddau naturiol sy'n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae'n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan ddwyn ynghyd dystiolaeth wedi'i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol, a phrosiectau cydweithredol fel Pedair Afon LIFE, LIFE Afon Dyfrdwy a phrosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf. Mae'r asesiad hwn wedi'i gysylltu’n agos â'r asesiad dŵr yn ogystal â thystiolaeth yn yr asesiadau newid hinsawdd a newid defnydd tir.

Mae'r asesiad wedi'i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy'n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu'r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a'r economi.

Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Mae ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru yn wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i addasu, rheoleiddio, llygredd, rhywogaethau goresgynnol a newid hinsawdd. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau dŵr croyw a aseswyd yn ddiweddar o dan y Rheoliadau Cynefinoedd mewn cyflwr anffafriol, gyda’r eog a’r fisglen berlog yn dirywio’n ddifrifol. Mae rhywogaethau estron goresgynnol fel jac y neidiwr a’r gimwch afon arwyddol yn parhau i fygwth bioamrywiaeth frodorol a sefydlogrwydd glannau afonydd. Yn hanesyddol, mae llygredd o faethynnau, cemegau a metelau wedi diraddio ansawdd dŵr, er bod rhai gwelliannau wedi digwydd. Fodd bynnag, mae halogion sy'n dod i'r amlwg fel microblastigion a cynhyrchion fferyllol yn peri risgiau newydd, ac mae’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn parhau i fod yn ansicr.

Mae ymdrechion i ddiogelu adnoddau dŵr croyw yn cynnwys adfer cynefinoedd, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol, a rheoli llygredd. Mae prosiectau fel Pedair Afon LIFE a Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn gwella cynefinoedd afonydd ac yn lleihau llygredd. Mae gwlyptiroedd a gorsafoedd tywydd wedi'u hadeiladu yn helpu i reoli dŵr ffo ac ansawdd dŵr. Mae buddsoddiadau cwmnïau dŵr yn mynd i'r afael â gollyngiadau gorlifoedd storm, ac mae ymchwil i ymwrthedd gwrthficrobaidd yn gwella dealltwriaeth o risgiau iechyd a gludir gan ddŵr. Mae'r camau gweithredu hyn yn cefnogi cadwraeth rhywogaethau ac yn gwella gwydnwch ecosystemau.

Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Gwydnwch ecosystemau dŵr croyw yw eu gallu i wrthsefyll pwysau allanol. Yn gyffredinol, mae mecanweithiau gwydnwch yn cael eu deall yn eithaf da mewn dyfroedd croyw, er bod ein dealltwriaeth o wydnwch dyfroedd croyw yng Nghymru yn cael ei llesteirio gan ddiffyg setiau data ar lefel genedlaethol i'w fesur.

Mae'r asesiadau o amrywiaeth, maint, cyflwr a chysylltedd ar draws cynefinoedd dŵr croyw yn adlewyrchu'r ffordd y mae gwydnwch ecosystemau dyfroedd croyw wedi'i beryglu'n sylweddol gan effeithiau dynol ar strwythur cynefinoedd, megis rhywogaethau goresgynnol, maint y cysgod, coredau ac argaeau, tyniadau dŵr, a’r cysylltedd rhwng afonydd a gorlifdiroedd. Yn gyffredinol, mae asesiadau yn is mewn dyfroedd croyw iseldir o’u cymharu â'r rhai mewn ardaloedd ucheldir, gyda llynnoedd ac afonydd ucheldir yn cael eu hasesu'n uwch o ran amrywiaeth a chyflwr.

Y brif her wrth gyflawni rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw yng Nghymru yw atal difrod pellach a nodi cyfleoedd i adfer swyddogaeth ecosystem naturiol i feithrin gwydnwch. Mae prosiectau adfer fel LIFE Afon Dyfrdwy ac Eogiaid Yfory wedi gwella dros 850 km o amgylchedd afonydd ac wedi gwella llwybrau mudo pysgod rhwng 2020 a 2025. Mae'r ymdrechion hyn, ochr yn ochr â Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd wedi'u diweddaru a mesurau cynefin wedi'u targedu, yn sefydlogi mesurau o faint a chysylltedd ac yn meithrin gwydnwch yn erbyn newid hinsawdd a phwysau eraill.

Nod 3: Lleoedd iach i bobl, wedi'u diogelu rhag risg amgylcheddol

Mae ecosystemau dŵr croyw yn cynnal iechyd pobl trwy buro dŵr a rheoleiddio llifau eithafol. Mae prosesau yn ac ar lan yr afon yn cadw symiau sylweddol o waddod a maethynnau, gan wella ansawdd y dŵr. Mae gwlyptiroedd wedi'u hadeiladu yn cael eu treialu i drin carthion a rheoli llif dŵr, gan gyfrannu at amgylcheddau mwy diogel a glanach.

Mae'r ecosystemau hyn hefyd yn gwella llesiant trwy hamdden, treftadaeth ddiwylliannol ac addysg. Gwnaed dros 28 miliwn o ymweliadau â safleoedd dŵr croyw yn 2021/22, gan gynnig manteision iechyd corfforol a meddyliol. Mae dulliau pysgota traddodiadol o werth treftadaeth, ac mae llawer o safleoedd dŵr croyw yn cefnogi dysgu ac ymchwil. Fodd bynnag, mae grwpiau lleiafrifol yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ymwelwyr. Gall hyrwyddo mynediad teg a gwasanaethau diwylliannol gryfhau rôl ecosystemau dŵr croyw yn iechyd a llesiant y cyhoedd.

Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Mae ecosystemau dŵr croyw yn cyfrannu at yr economi trwy buro dŵr a darparu ynni dŵr a chyfleoedd hamdden. Yn 2023, cynhyrchodd ynni dŵr 332 GWh, gan gefnogi nodau ynni adnewyddadwy Cymru. Mae dŵr glân yn lleihau costau trin ar gyfer diwydiannau a chyfleustodau, ac mae atebion ar sail natur fel gwlyptiroedd yn cynnig dewisiadau amgen costeffeithiol i seilwaith adeiledig. Mae gweithgareddau hamdden sy'n gysylltiedig ag ecosystemau dŵr croyw yn cefnogi economïau lleol, gyda gwariant twristiaeth yn cyrraedd £90 miliwn yn 2022.

Mae pwysau economaidd sy'n arwain at ddwysáu amaethyddol, datblygiadau adeiledig ac echdynnu dŵr yn parhau i fod yn bryder, yn enwedig yn wyneb hinsawdd sy'n newid. Fodd bynnag, mae atebion ar sail natur, ymyriadau adfer a rheoli tir gwell yn hyrwyddo defnydd tir cynaliadwy ac yn gwella potensial adfywiol ecosystemau dŵr croyw. Yn ogystal, mae rheolaethau cynllunio yn lleihau mewnbynnau maethynnau i safleoedd gwarchodedig allweddol mewn dŵr croyw ac mae rheolaethau defnydd ar drwyddedau gwialen/rhwyd wedi lleihau'r pwysau ar eogiaid a brithyllod môr.

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae tystiolaeth newydd wedi rhoi mwy o hyder yn yr asesiad o rywogaethau dŵr croyw allweddol a gwell dealltwriaeth o'r pwysau allweddol, yn enwedig llygredd dŵr. Mae cyfran uchel o gyrff dŵr yn methu â chyrraedd targedau ar gyfer maethynnau ac mae eogiaid mewn perygl o ddifodiant lleol.

Mae effeithiau newid hinsawdd yn dod yn fwy amlwg ac yn cynyddu; mae tystiolaeth newydd yn dangos rhyngweithiadau cymhleth â silio a goroesiad salmonidau yn ogystal â gostyngiadau hirdymor mewn pryfed cerrig dŵr oer mewn ymateb i dymheredd sy’n cynhesu.

Mae’r sylfaen dystiolaeth well ynghyd â lefelau uchel o ddiddordeb a ymwybyddiaeth gan y cyhoedd yn iechyd dyfroedd croyw yn galluogi amrywiaeth o ymatebion rheoleiddio ac adfer. Yn benodol, mae rheolaethau cynllunio ar faethynnau ar waith ar draws safleoedd gwarchodedig ar lan afonydd ac mae gennym sawl prosiect ar raddfa fawr ar waith i adfer prosesau a nodweddion dŵr croyw. Wrth symud ymlaen, mae dod o hyd i ffynonellau ariannu cynaliadwy a gweithio ar y cyd ar draws dalgylchoedd yn flaenoriaethau i ddarparu atebion hirdymor ar gyfer byd natur a chymunedau.

Darllenwch ein hasesiad llawn ar yr ecosystem dŵr croyw yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.



Tystiolaeth sylfaenol

Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy'n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:

  • yr hyn sy'n sbarduno newid a'r pwysau ar ddŵr croyw yng Nghymru
  • gwydnwch yr ecosystem dŵr croyw yng Nghymru
  • y manteision, neu'r gwasanaethau, a gawn o ddŵr croyw a sut mae newidiadau yng nghyflwr ymylon arfordirol yn effeithio ar lesiant

Cewch fynediad i'r dystiolaeth fanwl drwy ein porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Gweld fersiwn sgrin lawn.

Anghenion tystiolaeth

Mae angen critigol i asesu maint, cyflwr a thueddiadau presennol ecosystemau dŵr croyw yng Nghymru. Mae bylchau tystiolaeth yn cynnwys graddfa'r addasiadau ffisegol, effeithiau newid hinsawdd, a pha mor agored i niwed yw rhywogaethau sy'n ddibynnol ar ddŵr croyw. Mae angen offer ar gyfer mesur iechyd ecosystemau a manteision ymyriadau adfer hefyd, ochr yn ochr â monitro gwell o rywogaethau fel llysywod pendoll, brogaod a llyffantod. Mae'r mewnwelediadau hyn yn hanfodol ar gyfer llywio rheolaeth gynaliadwy a gwella gwydnwch ecosystemau dŵr croyw sydd o dan bwysau amgylcheddol cynyddol.

Mae nifer sylweddol o anghenion tystiolaeth yn ymwneud â deall ffynonellau ac effeithiau llygredd dŵr, gan gynnwys gwaddodion mân, halogion sy'n dod i'r amlwg, a dŵr ffo amaethyddol. Mae galw am ddulliau ac offer dibynadwy ar gyfer dosbarthu ffynonellau i fesur effeithiau ecolegol llygryddion ar rywogaethau fel yr eog a’r fisglen berlog. Yn ogystal, mae angen ymchwilio ymhellach i rôl arferion rheoleiddio, pwysau tynnu dŵr, ac effeithlonrwydd dŵr wrth lunio iechyd ecosystemau.

Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rywfaint o’r dystiolaeth yr ydym wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf

Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn brosiect Cyfoeth Naturiol Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru i adfer iechyd rhannau uchaf afon Gwy.

Mae'n gartref i sawl rhywogaeth bwysig, gan gynnwys yr eog, y dyfrgi, yr wangen a’r cimwch afon crafanc wen, a rhywogaeth planhigyn, crafanc y dŵr.

Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf – Citizen Space Cyfoeth Naturiol Cymru – Citizen Space

LIFE Afon Dyfrdwy

Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yng Ngogledd Cymru, gyda dalgylch o fwy na 1,800 cilometr sgwâr. Mae LIFE Afon Dyfrdwy yn brosiect gwerth £6.8 miliwn i drawsnewid afon Dyfrdwy a'i dalgylch trwy adfer yr afon a'i chyffiniau yn ôl i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â llawer o fanteision i'r amgylchedd, gan wella nifer yr eogiaid, llysywod pendoll a misglod perlog yn benodol, i'w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Cyfoeth Naturiol Cymru / LIFE Afon Dyfrdwy

Pedair Afon LIFE

Mae Pedair Afon LIFE yn brosiect adfer afonydd uchelgeisiol ar raddfa fawr i wella cyflwr pedair o brif afonydd Cymru: afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg. Mae’r pedair afon hyn wedi’u dosbarthu’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, sy’n golygu eu bod

o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd eu bywyd gwyllt a’u planhigion, megis eogiaid, llysywod pendoll, gwangod, dyfrgwn a chrafanc y dŵr. Mae'r pedair afon mewn cyflwr anffafriol o ganlyniad i bwysau lluosog.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect Pedair Afon LIFE

Diweddarwyd ddiwethaf