Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae aer fel adnodd yn cyfeirio at ansawdd yr aer o’n cwmpas yng Nghymru a’r allyriadau yr ydym yn eu cynhyrchu, gan gynnwys llygryddion a sylweddau ymbelydrol.

Negeseuon allweddol 

  • Mae aer glân a lleoedd heb lygredd sŵn a golau yn hanfodol ar gyfer iechyd y cyhoedd, bioamrywiaeth a ffyniant economaidd yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod llygredd aer yn achosi rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn ac yn costio £1 biliwn y flwyddyn i’r wlad mewn dyddiau gwaith coll a threuliau gofal iechyd.
  • Er gwaethaf gwelliannau ers yr oes ddiwydiannol, mae gan rannau o Gymru yr ansawdd aer gwaethaf ym Mhrydain o hyd, gyda phrif ffynonellau llygredd yn cynnwys trafnidiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a llosgi domestig.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad cryf i wella adnoddau aer Cymru drwy’r Cynllun Aer Glân i Gymru a chyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024.
  • Er mwyn mynd i’r afael â llygredd aer a sŵn yng Nghymru, mae angen dull amlsector, cydweithredol sy’n integreiddio atebion ar sail natur, trafnidiaeth gynaliadwy, a rheoli allyriadau ar draws amrywiol ddiwydiannau.
  • Bydd gwella aer Cymru o fudd i iechyd y cyhoedd a gwydnwch ecosystemau, yn ogystal â hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy drwy dechnolegau ac arferion glanach.

Asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy

Mae’r asesiad aer hwn yn un o dri asesiad adnoddau naturiol ac wyth asesiad ecosystem sy’n llywio Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 yn gyffredinol. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, gan ddwyn ynghyd dystiolaeth wedi’i diweddaru gan arbenigwyr pwnc, setiau data cenedlaethol a phrosiectau cydweithredol, ynghyd ag astudiaeth achos sy’n benodol i amonia.

Mae’r asesiad wedi’i strwythuro o amgylch pedwar nod cydgysylltiedig sy’n tywys cynnydd Cymru tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan helpu i gyfleu’r berthynas rhwng yr amgylchedd, llesiant a’r economi.

Nod 1: Mae stociau o adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a’u gwella

Mae ansawdd aer yng Nghymru wedi dangos cynnydd cymysg. Mae allyriadau llygryddion allweddol fel sylffwr deuocsid (SO₂), ocsidau nitrogen (NOₓ), gronynnau (PM10 a PM2.5) a phlwm (Pb) wedi gostwng yn sylweddol ers 2005, yn bennaf oherwydd newidiadau mewn technolegau cynhyrchu ynni a thrafnidiaeth. Er enghraifft, gostyngodd allyriadau SO₂ o orsafoedd pŵer 99% oherwydd y newid o lo i ffynonellau ynni glanach. Fodd bynnag, mae allyriadau amonia (NH₃) wedi cynyddu, wedi’u sbarduno gan ddwysáu amaethyddol, gan gynnwys mwy o ddefnydd o wrteithiau sy’n seiliedig ar wrea a siediau da byw. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn cyflwyno’r gofyniad i osod targed cenedlaethol newydd ar gyfer PM2.5 ac ar gyfer o leiaf un llygrydd arall, gyda’r nod o leihau allyriadau ymhellach.

Mae ymdrechion i wella ansawdd aer yn cynnwys camau deddfwriaethol, cynllunio trefol a gwelliannau technolegol. Disgwylir i fentrau fel parthau aer glân, hyrwyddo teithio llesol, a gwell effeithlonrwydd ynni mewn tai arwain at leihau allyriadau. Fodd bynnag, mae llygredd aer lleol yn parhau i fod yn bryder, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a diwydiannol.

Mae mapio llonyddwch yn dangos bod 69% o’r wlad yn y tri chategori llonyddwch cenedlaethol uchaf ar gyfer yr amgylchedd sain, lle mae synau naturiol yn fwy amlwg na sŵn wrth ystyried ffyrdd a rheilffyrdd yn unig.

Nod 2: Mae ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig

Mae llygredd aer yn peri risgiau sylweddol i wydnwch ecosystemau. Mae NOX ac NH3 yn cyfrannu at ddyddodiad nitrogen, gan arwain at ewtroffeiddio, asideiddio pridd a llygredd dŵr. Yn 2021, roedd 99.1% o ardaloedd cynefinoedd sensitif yng Nghymru wedi mynd y tu hwnt i’w llwyth critigol ar gyfer ewtroffeiddio, ac roedd 70.6% wedi mynd y tu hwnt i drothwyon asidedd. Er bod maint y gormodiant wedi gostwng dros amser, mae pob Ardal Cadwraeth Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig yn dal i fod yn fwy na llwythi critigol y maethyn nitrogen ar gyfer o leiaf un nodwedd.

Mae’r cynnydd yn cynnwys gostyngiadau mewn allyriadau SO₂, y disgwylir iddynt leddfu pwysau asideiddio erbyn 2050. Nod Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol 2021 yw lleihau allyriadau amonia a cholledion maethynnau. Mae ymdrechion cydlynol i reoli llygredd nitrogen yn hanfodol ar gyfer adfer iechyd ecosystemau. Mae camau gweithredu fel amaethyddiaeth gynaliadwy a rheoli llygredd yn cael eu rhoi ar waith i liniaru effeithiau sy’n gysylltiedig ag aer ar fioamrywiaeth ac ansawdd cynefinoedd.

Nod 3: Lleoedd iach i bobl, wedi’u diogelu rhag peryglon amgylcheddol

Mae llygredd aer yn effeithio’n sylweddol ar iechyd pobl, gan gyfrannu at glefydau resbiradol a chardiofasgwlaidd. Yng Nghymru, priodolir rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn i ansawdd aer gwael. Mae llygryddion fel NO₂, SO₂, PM2.5 ac osôn (O3) yn arbennig o niweidiol. Mae llygredd sŵn hefyd yn effeithio ar lesiant, gyda 27% o drigolion trefol yn nodi aflonyddwch rheolaidd. Mae aer glanach ac amgylcheddau tawelach yn gwella iechyd corfforol a meddyliol, yn lleihau costau gofal iechyd, ac yn gwella ansawdd bywyd.

Mae anghydraddoldebau amgylcheddol yn parhau, gyda chymunedau difreintiedig yn fwy agored i ansawdd aer gwael ac â llai o fannau gwyrdd. Yn 2019, Casnewydd a Chaerdydd oedd â’r crynodiadau uchaf o ardaloedd yn y categori amgylchedd ffisegol mwyaf difreintiedig. Nod Deddf 2024 a mentrau cynllunio trefol yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn drwy ddulliau integredig, gan gynnwys atebion ar sail natur a seilwaith teithio llesol, gan feithrin amodau byw iachach a mwy cyfartal.

Nod 4: Cyfrannu at economi adfywiol, gan gyflawni lefelau cynhyrchu a defnydd cynaliadwy

Mae ansawdd aer wedi’i gysylltu’n agos â gweithgarwch economaidd. Mae dwysáu amaethyddol wedi sbarduno cynnydd mewn allyriadau amonia, tra gwelwyd gostyngiadau yn y sectorau diwydiannol a thrafnidiaeth. Mae ansawdd aer gwael yn effeithio ar gynhyrchiant, gyda cholledion amcangyfrifedig o £1 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae osôn ar lefel y ddaear, a ffurfir o NO₂, yn niweidio cnydau, ecosystemau a deunyddiau, gan ychwanegu costau economaidd-gymdeithasol.

Mae ymdrechion i drawsnewid i economi adfywiol yn cynnwys lleihau allyriadau drwy drafnidiaeth lanach, amaethyddiaeth gynaliadwy a seilwaith gwell. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn gosod targedau ar gyfer PM2.5 a llygryddion eraill o bosibl, fel NO2 ac NH3, gan gefnogi cynaliadwyedd hirdymor. Mae ymchwil i reoli llygredd ac effeithlonrwydd adnoddau yn hanfodol ar gyfer alinio twf economaidd â diogelu’r amgylchedd, gan sicrhau bod ansawdd aer yn cyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Newidiadau allweddol ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020

Ers Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020, mae Cymru wedi gweld cynnydd nodedig o ran ansawdd aer. Mae crynodiadau nitrogen deuocsid wedi gostwng mewn llawer o ardaloedd trefol, gan arwain at ddirymu sawl ardal rheoli ansawdd aer. Fodd bynnag, mae lefelau amonia ac osôn yn parhau i fod yn broblem, yn enwedig ar gyfer cynefinoedd sensitif.

Daeth newid deddfwriaethol mawr gyda Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024, sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru osod targedau penodol i lygryddion (e.e. PM₂.₅, NO₂, amonia), ac mae’n cynnwys gofynion megis hyrwyddo teithio llesol i leihau allyriadau. O ran ffynonellau diwydiannol o lygredd aer, disgwylir y bydd cau’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn lleihau allyriadau, yn enwedig PM₁₀ a hydrocarbonau aromatig polysyclig (PAHs), ac mae’n debyg y bydd gwelliannau mesuradwy yn dod yn gliriach yn 2025–2026 wrth i’r gwaith monitro barhau.

Er bod allyriadau wedi gostwng yn fras, mae llygredd aer yn dal i beri risgiau i iechyd ac ecosystemau. Mae gweithredu integredig ar draws sectorau bellach yn allweddol i gyflawni nodau iechyd a bioamrywiaeth.

Darllenwch ein hasesiad aer llawn yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.



Tystiolaeth sylfaenol

Wrth ysgrifennu ein hasesiadau ac er mwyn nodi cyfleoedd gweithredu yn well, rydym wedi casglu tystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall yr agweddau allweddol hyn:

  • sbardunau newid a phwysau ar yr aer yng Nghymru
  • gwydnwch ecosystem yr aer fel adnodd yng Nghymru
  • y manteision, neu’r gwasanaethau, a gawn o aer fel adnodd a sut mae newidiadau yng nghyflwr aer yn effeithio ar lesiant

Cewch fynediad i’r dystiolaeth fanwl drwy ein porth tystiolaeth ar gyfer Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025.

Gweld fersiwn sgrin lawn.

Anghenion tystiolaeth

Er mwyn gwella ansawdd aer yng Nghymru, mae angen sylfaen dystiolaeth gryfach ar draws sawl dimensiwn. Gall gwell monitro lleol a chenedlaethol, wedi’i integreiddio o fewn un porth hygyrch, fod o fudd i olrhain tueddiadau a llywio penderfyniadau. Mae angen ymchwil i ddyfnhau ein dealltwriaeth o effeithiau iechyd, o gyfnodau byr o lygredd uwch ac o amlygiad hirfaith i lefelau is o lygryddion. Yn ogystal, mae angen gwell dealltwriaeth o seinweddau a sut y gall seinweddau effeithiol wella iechyd pobl ac ecosystemau.

Mae angen tystiolaeth wedi’i thargedu i sbarduno camau gweithredu effeithiol. Mae hyn yn cynnwys data i arwain strategaethau lleihau allyriadau sy’n cyd-fynd â thargedau ansawdd aer a charbon, yn enwedig mewn trafnidiaeth, diwydiant a gwresogi domestig. Mae angen tystiolaeth gliriach ar gyfer materion sy’n ymwneud ag aroglau ar raddfeydd cenedlaethol a lleol, gan gynnwys nodi’r prif ffynonellau a sectorau sy’n gyfrifol. Mae angen data hefyd ar sut mae llygredd aer yn effeithio ar fioamrywiaeth, cynnyrch cnydau, ac agweddau eraill ar yr amgylchedd naturiol. Yn olaf, mae angen tystiolaeth i asesu effaith polisïau ansawdd aer presennol a rhai’r dyfodol, gan gynnwys pa mor effeithiol o ran cost ydynt, er mwyn helpu i sicrhau bod ymyriadau’n darparu manteision ystyrlon i bobl a natur.

Darllenwch am anghenion tystiolaeth SoNaRR 2025.

Ffynonellau tystiolaeth allweddol

Archwiliwch rai o’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i defnyddio i lywio ein hasesiad:

Astudiaethau achos

Monitro a lleihau amonia

Mae amonia yn llygrydd atmosfferig pwysig ac mae’n niweidiol i iechyd pobl pan gaiff ei gyfuno â llygryddion diwydiannol eraill. Pan gaiff ei ddyddodi ar dir, gall amonia asideiddio priddoedd a dyfroedd croyw, gan ‘or-wrteithio’ cymunedau planhigion naturiol. Gall y nitrogen ychwanegol gynyddu twf rhai rhywogaethau fel gweiriau garw a danadl poethion, sy’n trechddisodli rhywogaethau eraill. Nod y prosiect hwn yw monitro a lleihau allyriadau amonia o amaethyddiaeth ac mae’n cael ei ariannu drwy raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Prosiect i fonitro a lleihau allyriadau amonia sy’n deillio o amaethyddiaeth

Sbardunau amaethyddol pwysau allyriadau NH3 a’u heffeithiau yng Nghymru

Mae’r astudiaeth achos hon yn archwilio sut y gallem ddeall yn well y perthnasoedd rhwng y sbardunau amaethyddol sy’n achosi pwysau allyriadau amonia (NH3) a’u heffeithiau yng Nghymru gan ddefnyddio model Ysgogwr–Pwysau–Sefyllfa–Effaith–Ymateb. Mae’n dangos sut y gall y dystiolaeth hon helpu i dargedu ymatebion yn well i leihau allyriadau NH3 o amaethyddiaeth, ac yn tynnu sylw at rwystrau posibl i fabwysiadu’r mesurau ymateb hyn yn eang.

Astudiaeth achos NH3 yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024

Pasiwyd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 – yn ei hanfod “Deddf Aer Glân” Cymru – ym mis Chwefror 2024 (Senedd Cymru, 2024; Llywodraeth Cymru, 2024a). Mae’r Ddeddf hon yn gosod fframwaith ar gyfer gweithredu’r Cynllun Aer Glân a thargedau ansawdd aer llymach (yn enwedig PM₂.₅), yn galluogi creu parthau aer glân yn y dyfodol, ac yn mynd i’r afael ag allyriadau o losgi domestig a segura.

Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 | Cyfraith Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf