Cymorth Technegol Rheoli Tir
Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 4: £32,544 - £35,377 y flwyddyn | Lleoliad: Clawdd Newydd
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig y Gogledd-ddwyrain / Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Rhan amser, 14.5 awr yr wythnos
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 200341
Y rôl
Mae tîm Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig y Gogledd-ddwyrain yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o fuddion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar draws oddeutu 1,200ha o dir gan gynnwys Coedwig Clocaenog, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Y Berwyn a safleoedd hamdden o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm prysur a deinamig hwn ar gyfer rhannu swydd Cymorth Technegol Rheoli Tir.
Fel aelod o’r tîm deinamig hwn, ymhlith dyletswyddau eraill, bydd disgwyl i chi gydweithio i drefnu rhaglen rheoli tir y cytunwyd arni i safon uchel ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Byddwch yn rheoli gwahanol agweddau ar y rhaglen ar y cyd megis diogelwch y cyhoedd, diogelwch coed, ffensio a thorri ar ochr y ffordd.
Bydd gofyn i chi fod wedi'ch lleoli yn Swyddfa Clawdd Newydd a gweithio allan yn y maes mewn gwahanol safleoedd a lleoliadau am gyfran sylweddol o'ch oriau cytundebol.
Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol rhagorol a bod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Byddwch wedi arfer gweithio yn yr awyr agored mewn gwahanol amodau tywydd a bydd gennych brofiad o oruchwylio contractwyr a gweithio gyda gwahanol gwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Fel sefydliad rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC yn y lleoliad uchod a chytunir ar batrwm gwaith hybrid addas adeg eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Matt Roberts neu Paula Harley yn
matt.roberts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
paula.harley@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
About us
Timau Rheoli Tir a Choedwigaeth y Gogledd Ddwyrain yw'r unig dîm cyfun o'r disgyblaethau hyn yng Nghymru. Mae’r rhannu swydd hwn ar gyfer rôl sy’n gweithio’n bennaf i gyflawni rhaglenni gwaith rheoli tir fel diogelwch y cyhoedd, diogelwch coed, ffensio a rheoli llystyfiant ar ochr y ffordd ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru a GNG yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Gan weithio o swyddfa Clawdd, mae’r rôl yn bennaf yn y maes ac yn gweithio gyda thirfeddianwyr, rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cyflawni cynlluniau gwaith tîm, a chyflawni camau gweithredu y cytunwyd arnynt i gyfrannu at gynllunio busnes.
- Cymryd rhan mewn grwpiau technegol yn CNC.
- Rhyngweithio â chydweithwyr o fewn CNC i hyrwyddo arfer gorau cyson yn y diwydiant.
- Cyflawni rhaglenni dirprwyedig o fewn y gyllideb y cytunwyd arni, gan lynu wrth yr holl weithdrefnau caffael perthnasol, deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac arfer gorau'r diwydiant.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o weithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau rheoli tir.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o reoli cadwraeth, safleoedd dynodedig, a phob agwedd ar ymarfer coedwigaeth, gan gynnwys rhwymedigaethau tir, cynllunio coedwigoedd, gweithrediadau coedwig, rheoli asedau hamdden, gan gynnwys rheoli canolfannau ymwelwyr (lle bo'n berthnasol).
- Gwybodaeth am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, UKWAS a chynlluniau ardystio coedwigoedd.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel C2 - Lefel hyfedredd uwch (rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.