Cyfarfod y Bwrdd 21 Mawrth 2024
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 9:20 – 11:20
Amser | 
Eitem | 
|---|---|
| 
 09:30 (5 mun)  | 
 Eitem 1. Cyfarfod Agored 
 Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant  | 
| 
 09:35 (5 mun)  | 
 Eitem 2. Adolygu Cofnodion a Log Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion o Gyfarfod Cyhoeddus 2 Chwefror Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r Log Gweithredu  | 
| 
 09:40 (5 mun)  | 
 Eitem 3. Diweddariad y Cadeirydd Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd  | 
| 
 09:45 (15 mun)  | 
 Eitem 4. Adroddiad y Prif Weithredwr Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a diweddaru’r Bwrdd ar y prif weithgareddau Cyf y Papur: 24-03-B02  | 
| 
 10:00 (20 mun)  | 
 Eitem 5. Adroddiadau Diweddaru Pwyllgorau a Fforymau Noddwyr a Chyflwynwyr: Cadeiryddion Pwyllgorau 
 Crynodeb: NODI diweddariadau Pwyllgorau’r Bwrdd a Fforymau CNC, y tu mewn a’r tu allan a chyfarfodydd a gynhaliwyd  | 
| 
 10:20 (15 mun)  | 
 Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyf y Papur: 24-03-B09  | 
| 
 10:35 (20 mun)  | 
 Eitem 7. Adroddiad Chwarter 3 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Perfformiad Mewnol Chwarter 3 Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a Swyddfa Rheoli Rhaglen; Kirsten Hughes, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Chwarter 3 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Perfformiad Mewnol Chwarter 3 Cyf y Papur: 24-03-B10  | 
| 
 10:55 (0 mun)  | 
 Eitem 8. Eitemau i’w Cymeradwyo 
 Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Gorfforaethol a Datblygu Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Llesiant, Iechyd a Diogelwch ar gyfer Chwarter 3 Cyf y Papur: 24-03-B11  | 
| 
 10:55 (5 mun)  | 
 Eitem 9. Unrhyw Fater Arall  | 
| 
 11:00  | 
 Cau’r Cyfarfod  | 
| 
 11:00 (20 mun)  | 
 Sesiwn Holi ac Ateb Gyhoeddus  | 
| 
 11:20  | 
 Cau’r Cyfarfod Cyhoeddus  |