Cyfarfodydd Bwrdd 2026: dyddiadau, agendâu a chofnodion
Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd – 2026
Cynhelir rhai o gyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus ar-lein. Rydym yn cyhoeddi’r agenda a’r papurau ar ein gwefan un wythnos cyn pob cyfarfod cyhoeddus. Rydym yn cyhoeddi’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol.
Arsylwi cyfarfodydd y Bwrdd ar-lein
Fel aelod o’r cyhoedd, gallwch ymuno â chyfarfodydd cyhoeddus y Bwrdd gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus agored. Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
Rydym wrthi’n adolygu’r modd rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ein cyfarfodydd Bwrdd a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth maes o law.
Sgyrsiau gyda CNC – Aberystwyth
Fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, rydym yn cynnal y sesiwn gyntaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau galw heibio newydd, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad wyneb yn wyneb ag aelodau’r Bwrdd a staff am amrywiaeth o faterion.
- Dyddiad: dydd Mercher 18 Mawrth 2026
- Amser: 2.30pm tan 4.30pm
- Lleoliad: Y Stiwdio Gron, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, SY23 3DE
Mae croeso i unrhyw un fynychu ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae lleoedd parcio ar gael.
Dyddiadau, agendâu a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd
- Dydd Llun 12 Ionawr
- Dydd Iau 12 Chwefror
- Dydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Mawrth
- Dydd Mercher 20 a dydd Iau 21 Mai
- Dydd Mercher 29 Gorffennaf
- Dydd Mawrth 22 a dydd Mercher 23 Medi
- Dydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Tachwedd