Cyfarfod y Bwrdd 16 Tachwedd 2023
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.
Amser y cyfarfod: 9:30 – 12.25
| 
 Amser  | 
 Eitem  | 
|---|---|
| 
 9.30 (5 munud)  | 
 1. Agor y cyfarfod 
 Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant.  | 
| 
 9.35 (5 munud)  | 
 2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 21 Medi 2B. Adolygu’r Cofnod Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod gweithredu.  | 
| 
 9.40 (5 munud)  | 
 3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd.  | 
| 
 9.45 (15 munud)  | 
 4. Adroddiad y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI’r sefyllfa gyfredol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol. Cyfeirnod y papur: 23-11-B10  | 
| 
 10.00 (20 munud)  | 
 5. Diweddaru Adroddiadau o Bwyllgorau a Fforymau (yn ddi-eithriad) Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – 9 Hydref Diweddariadau Fforwm Crynodeb: NODI’R diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd, o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd a thu hwnt.  | 
| 
 10:20 (25 munud)  | 
 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid ac Adolygiad Cyllideb Canol Blwyddyn Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Cyfeirnod y papur: 23-11-B19  | 
| 
 10.45 (15 munud)  | 
 Egwyl  | 
| 
 11.00 (30 munud)  | 
 7. Natur a Ni Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Russell De'Ath, Uwch Gynghorydd Arbenigol, Gweledigaeth 2050; Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a PMO Crynodeb: Cymeradwyo ymateb CNC i Weledigaeth Natur a Ni Cyfeirnod y papur: 23-11-B20  | 
| 
 11.30 (20 munud)  | 
 8. Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 2 Perfformiad Mewnol Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Sue Ginley, Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Chwarter 2 Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes ac Adroddiad Chwarter 2 Perfformiad Mewnol Cyfeirnod y papur: 23-11-B21  | 
| 
 11.50 (10 munud)  | 
 9. Ailgysoni Strwythur a Threfniadau Llywodraethu CNC yn dilyn lansio'r Cynllun Corfforaethol Newydd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Victoria Painter, Pennaeth Llywodraethu Dros Dro ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO'R Cylch Gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Bwrdd, y Pwyllgorau a'r Tîm Gweithredol. NODI'r gwaith ar gysoni’r strwythur llywodraethu a'r trefniadau i'r Cynllun Corfforaethol. Cyfeirnod y papur: 23-11-B22  | 
| 
 12.00 (5 munud)  | 
 10. Unrhyw fater arall  | 
| 
 12.05  | 
 Diwedd y Cyfarfod  | 
| 
 12.05 (20 munud)  | 
 Sesiwn holi ac ateb cyhoeddus  | 
| 
 12.25  | 
 Diwedd y Cyfarfod Cyhoeddus  |