Gwneud cais am ganiatâd Deddf y Diwydiant Dŵr
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gwneud cais i ollwng dŵr i gwrs dŵr.
Mae angen i chi wneud cais am ganiatâd dan adran 166 Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 i ollwng dŵr:
- a allai gynnwys solidau neu ddeunydd sy’n llygru
 - a ryddhawyd yn sgil gostwng lefel y dŵr mewn cronfa drwy’r falf sgwrio
 - drwy bibellau sy’n fwy na 229mm o ddiamedr
 - adnewyddu gollyngfeydd falfiau sgwrio ddwywaith y flwyddyn (bob 5 mlynedd). 
 
Cyn dechrau
Mae angen i chi wybod:
- a yw’n achos o ollyngiad unigol neu ollyngiadau lluosog
 - enw a chyfeiriad y safle
 - enw’r cwrs dŵr sy’n derbyn y gollyngiad
 - cyfeirnod gridy pwyntiau gollwng a samplu
 - y rhesymau dros y gollyngiad
 - diamedr y bibell ollwng
 - o ba fath o ased fydd y gollyngiad yn dod
 - pryd ddigwyddodd y gollyngiad diwethaf (cronfeydd dŵr yn unig)
 - math o ollyngiad
 - amcangyfrif o gyfaint y dŵr a gaiff ei ollwng
 - y gyfradd ollwng
 - pryd rydych chi’n bwriadu gwneud y gwaith gollwng
 - ble bydd y dŵr yn draenio
 - sut i dalu
 
Dogfennau i’w llwytho i fyny
- 
Cynllun safle yn dangos y safle, y pwynt gollwng a’r pwynt monitro.
 - 
Manylion am sut byddwch chi’n lliniaru perygl llygredd. Er enghraifft, deuclorineiddio’r dŵr, neu gyfyngu ar ryddhau solidau crog.
 - 
Ffotograffau neu wybodaeth arall i gefnogi eich cais.
 - 
Dogfennau ychwanegol y mae angen i chi eu paratoi os ydych yn rhyddhau o gronfa ddŵr.
 
Ffioedd
- £820 am ollyngiad dŵr unigol (a166a)
 - £1,337 am ollyngiadau dŵr lluosog o un safle yn unig (a166b)
 
Byddwn yn gwirio a oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar eich cais. Os oes, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn cwblhau’r asesiad ar eich rhan.
Byddwn yn codi £649 yn ychwanegol os byddwn yn cwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Codir tâl o 10% o'r gyfradd am un achos o ollwng dŵr am bob achos ychwanegol o ollwng dŵr ar safleoedd eraill a restrir ar yr un cydsyniad.
Amserlenni
Gollyngiadau dŵr unigol (a166a)
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 7 diwrnod o dderbyn cais cyflawn a’r ffi gywir.
Os bydd angen i ni gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, bydd yn cymryd 7 diwrnod yn ychwanegol i benderfynu ar y cais.
Gollyngiadau dŵr lluosog o un safle yn unig (S166b)
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 3 mis o dderbyn cais cyflawn a’r ffi gywir.
Gollyngiad mewn argyfwng
Nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd i gyflawni gollyngiad brys. Ond bydd angen i chi roi gwybod i’n canolfan gyfathrebu ar gyfer digwyddiadau.