Penderfyniad Rheoleiddiol 051.2 Storio a rheoli gwastraff a gloddiwyd wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2026, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys. 

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw’r gweithgaredd y mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud ag ef wedi newid.

 

Penderfyniad rheoleiddiol

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i weithredwyr sy’n delio â gwastraff a gloddiwyd wrth gyflawni gwaith gosod a thrwsio cyfleustodau nas cynlluniwyd. Mae’n caniatáu i chi dderbyn a storio’r fersiynau drych-beryglus o’r gwastraffau a restrir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn lle mae eich trwydded ond yn caniatáu’r drych-godau ar gyfer gwastraff nad yw'n beryglus.

Gallwch hefyd drin y gwastraffau a restrir yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn os ydynt wedi’u hasesu fel rhai nad ydynt yn beryglus o dan benderfyniad rheoleiddiol 117 Dosbarthu gwastraff a gloddiwyd o waith stryd a chyfleustodau. Dylech ddarllen y penderfyniad rheoleiddiol hwnnw i ddeall sut mae’r gwastraff y mae’n ei gwmpasu yn cael ei ddosbarthu.

Os ydych yn trin gwastraff, rhaid i chi brofi unrhyw ddeunyddiau a gynhyrchir o’r driniaeth honno am briodweddau peryglus yn unol â nodyn technegol WM3.

Mae’r corff masnach Street Works UK yn datblygu methodoleg ar gyfer asesu gwastraff cyfleustodau. Mae profion ar y gwastraff hwn wedi dangos bod tua 15% o wastraff cyfleustodau yn bodloni un neu ragor o’r meini prawf er mwyn ei ystyried yn wastraff peryglus.

Os na fedrwch ddilyn yr amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, rhaid i chi ddilyn y canllawiau technegol ar gyfer dosbarthu gwastraff er mwyn asesu a dosbarthu unrhyw wastraff a gloddiwyd.

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn gymwys i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. 

Os na fedrwch gydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael trwyddedau eraill o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych chi’n eu cyflawni.

 

Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw  

Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn cwmpasu gwastraff wedi’i gloddio a gynhyrchir gan (neu ar ran) cwmnïau cyfleustodau sy’n aelodau o Street Works UK ac sy’n deillio o waith gosod ac atgyweirio cyfleustodau nas cynlluniwyd.

Mae’n rhaid i chi weithredu safle gwastraff a ganiateir sy’n gallu derbyn y codau gwastraff hyn (ac eithrio pan mai chi yw’r cynhyrchydd sy’n storio’r gwastraff ar safle a reolir gennych chi, sydd wedi’i gwmpasu gan esemptiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Deunydd nad yw’n Wastraff):

  •     17 01 01 concrit
  •     17 01 02 brics
  •     17 01 03 teils a deunyddiau ceramig
  •     17 01 06* ac 17 01 07 cymysgeddau o goncrit, brics, teils a deunyddiau ceramig
  •     17 03 01* ac 17 03 02 cymysgeddau bitwminaidd
  •     17 05 03* ac 17 05 04 pridd a cherrig
  •     17 09 03* ac 17 09 04 gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg

Sylwer: mae seren (*) wrth ymyl y cod yn golygu ei fod yn wastraff peryglus. Dim ond ar gyfer gwastraff dros 15m3 sy’n cael ei ystyried yn wastraff peryglus y dylid defnyddio codau gwastraff peryglus.

Rhaid i chi wneud y canlynol:

  •     diweddaru eich system rheoli amgylcheddol i egluro sut y byddwch yn rheoli gwastraff yr ydych yn ei dderbyn o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn yn eich gweithrediad a ganiateir
  •     storio gwastraff a geir o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn wedi’i wahanu gan god gwastraff (er enghraifft, storio 17 03 02 gwastraff bitwminaidd ar wahân i 17 09 04 is-sylfaen)
  •     storio gwastraff a geir o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn ar wahân i wastraff arall (nad yw’n waith stryd) a gewch
  •     storio gwastraff sydd wedi’i ddosbarthu fel gwastraff peryglus o dan benderfyniad rheoleiddiol rhif 117 wedi’i wahanu fesul gwaith gwahanol (gan ddefnyddio cyfeirnod trwydded y gwaith neu rif archeb y gwaith i nodi gwaith gwahanol) nes iddo gael ei brofi yn unol â nodyn technegol WM3
  •     cadw cofnodion (gan gynnwys dogfennau trosglwyddo a chanlyniadau samplu) am ddwy flynedd (neu dair blynedd ar gyfer gwastraff peryglus) i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r penderfyniad rheoleiddiol hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais

Ni chewch wneud y canlynol:

  •     newid dosbarthiad unrhyw wastraff a gawsoch o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn oni bai ei fod wedi’i samplu a’i brofi i ddangos y dylai gael ei ddosbarthu’n wahanol
  •     trin gwastraff sydd wedi’i ddosbarthu’n beryglus o dan benderfyniad rheoleiddiol rhif 117, oni bai fod eich trwydded yn caniatáu i chi drin y gwastraff peryglus penodedig hwnnw

Rhaid i chi beidio â defnyddio gwastraff a gawsoch o dan y penderfyniad rheoleiddiol hwn mewn unrhyw brotocol ansawdd neu broses diwedd gwastraff oni bai:

  •     ei fod wedi’i samplu a’i brofi yn unol â nodyn technegol WM3
  •     y cafwyd cadarnhad nad yw’n beryglus a'i fod yn addas fel deunydd mewnbwn

 

Gorfodi 

Nid yw’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gael trwydded amgylcheddol wrth storio a rheoli gwastraff a gloddiwyd o waith gosod ac atgyweirio cyfleustodau.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.

Yn ogystal, ni chaiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo wneud fel a ganlyn:

  •     peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
  •        peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
  •     cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf