Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Trosglwyddiad ar gyfer Tynnu Dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Hysbysir trwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Rheoliad 6 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 i gais gael ei wneud i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am drwydded i dynnu dŵr o Nant Carn yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 22182 93494 ar gyfer ei drosglwyddo i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol ST 21963 93015, yn ôl y cyfraddau a’r cyfnodau canlynol: 406.67 metr ciwbig yr awr, 9,760 metr ciwbig y dydd a 1,190,720 metr ciwbig y flwyddyn rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref yn gynhwysol ym mhob blwyddyn.
Bydd y dŵr yn cael ei dynnu er mwyn ei drosglwyddo rhwng y ffynonellau cyflenwi y cyfeirir atynt isod heb ddefnydd rhyngol.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-027616 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bost i: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 14/07/2025 fan bellaf.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9-5).