Ffermydd gwynt a’u heffaith ar ddŵr daear: canllawiau i awdurdodau cynllunio a datblygwyr

Mae’r canllawiau hyn yn helpu datblygwyr i nodi a lliniaru effeithiau posibl ar ddŵr daear wrth adeiladu a gweithredu ffermydd gwynt ar y tir. Maent yn helpu i lywio’r rhai sy’n cynhyrchu asesiadau o’r effaith amgylcheddol i gefnogi ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir arfaethedig.

Mae’r cyngor hwn hefyd yn cynnig canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol sy’n ystyried yr effeithiau amgylcheddol posibl sy’n gysylltiedig â cheisiadau ffermydd gwynt ar y tir.

Mae’r canllawiau’n cwmpasu’r prif feysydd a materion i’w hystyried wrth asesu’r effaith bosibl ar ddŵr daear ac yn dweud wrthych pa ganiatadau y bydd eu hangen arnoch gennym ni.

Effaith y gall fferm wynt ei chael ar ddŵr daear

Gall sylfeini, pyllau benthyg a seilwaith fel ffyrdd, traciau a ffosydd amharu ar lif dŵr daear, gan leihau faint o ddŵr sy’n llifo i gyrsiau dŵr neu gyflenwadau dŵr cyfagos. Mae eu hadeiladu hefyd yn tynnu’r haenau amddiffynnol o bridd ac isbridd, gan wneud y dŵr daear isod yn fwy agored i lygredd o ollyngiadau o gerbydau neu’r offer a ddefnyddir i’w hadeiladu. Mae hefyd yn gwneud y dŵr daear yn agored i ollyngiadau o dyrbinau a seilwaith arall y safle yn ystod y gweithrediad.

Mae llawer o ffermydd gwynt bellach yn cynnwys cyfleusterau storio batris, a all beri risg sylweddol o lygredd o danau ac o golli dŵr tân halogedig i’r amgylchedd. Byddai dŵr tân yn ffynhonnell fawr o gemegau peryglus.

Gwybodaeth yr ydym yn ei disgwyl mewn asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer fferm wynt

O fewn asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer fferm wynt, rydym yn disgwyl i’r canlynol gael ei ddarparu.

  • Manylion y datblygiad, gan gynnwys lleoliad tyrbinau a’u sylfeini, pyllau benthyg, ffyrdd, traciau, cloddiadau, lloriau caled, ardal storio dros dro, compowndau, ffosydd cebl, pibellau, pyllau benthyg, unrhyw adeiladau, gan gynnwys is-orsafoedd, a systemau storio ynni batris a phaneli solar.
  • Manylion amodau sylfaenol y safle, a gafwyd o astudiaeth ddesg ac arolwg maes.
  • Manylion y derbynyddion y gallai’r fferm wynt effeithio arnynt.
  • Manylion effeithiau posibl ar ddŵr daear o’r datblygiad yn ystod ei adeiladu, ei weithredu a’i ddatgomisiynu, ac asesu arwyddocâd yr effaith honno. Dylai hyn hefyd gynnwys asesu’r risgiau i’r amgylchedd os mai’r bwriad yw gadael seilwaith, yn enwedig seilwaith wedi’i gladdu fel ceblau, ar y safle am byth ar ôl datgomisiynu.
  • Tystiolaeth o ymgorffori clustogfeydd lliniaru yn nyluniad y cynllun.
  • Mesurau lliniaru arfaethedig sydd eu hangen.

Casglu data ar amodau sylfaenol

Mae’n bwysig sefydlu amodau lleol cyn datblygu, a elwir yn amodau sylfaenol. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ddylanwadu ar y gwaith o ddylunio ac adeiladu’r fferm wynt er mwyn lleihau risgiau i’r amgylchedd yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu.

Mae amodau sylfaenol ar gyfer dŵr daear yn cynnwys:

  • daeareg y safle
  • dynodiad dyfrhaen a statws y perygl i ddŵr daear
  • dyfnder i ddŵr daear
  • presenoldeb unrhyw barthau gwarchod ffynhonell dŵr daear
  • arolwg nodweddion dŵr (gan gynnwys arolwg maes) er mwyn nodi tyllau turio, ffynhonnau, tarddellau, cyrsiau dŵr, pyllau, llynnoedd ac ardaloedd gwlyptir yn yr ardal gyfagos
  • ansawdd dŵr daear a nodi a allai hwn fod wedi’i halogi oherwydd defnyddiau tir hanesyddol

Defnyddio clustogfeydd lliniaru

Er mwyn lleihau’r risg y bydd datblygiad y fferm wynt yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd dŵr, dylai’r defnydd o glustogfeydd lliniaru ddylanwadu ar ddyluniad y cynllun. Pe bai elfennau o’r datblygiad (traciau, sylfeini tyrbinau, pyllau benthyg, compowndau) wedi’u lleoli o fewn y clustogfeydd, yna byddai disgwyl asesiad pellach (megis sefydlu’r parth cyfraniad posibl at y nodwedd ddŵr) o fewn yr asesiad o’r effaith amgylcheddol er mwyn cyfiawnhau arwyddocâd yr effaith ddisgwyliedig. Y clustogfeydd lliniaru hyn yw:

  • 10 metr i ffwrdd o afonydd, nentydd, llynnoedd, pyllau a ffosydd
  • 50 metr o darddell, ffynnon, twll turio neu gwrs dŵr nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer dŵr yfed
  • 250 metr o darddell, ffynnon, twll turio neu gwrs dŵr a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed
  • 250 metr o wlyptir dynodedig

Caniatadau eraill y gallai fod eu hangen arnoch

Bydd angen trwydded tynnu dŵr arnoch os ydych chi’n tynnu mwy nag 20,000 litr y dydd o ddŵr daear – er enghraifft, er mwyn dad-ddyfrio unrhyw sylfeini tyrbinau neu byllau benthyg rydych chi’n eu hadeiladu. Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch ar gyfer dad-ddyfrio cloddfa neu chwarel neu ar gyfer prosiect peirianneg sifil.

Bydd angen trwydded amgylcheddol ar gyfer unrhyw ollyngiadau i’r ddaear fel rhan o waith adeiladu, gweithredu neu ddatgomisiynu’r fferm wynt. Gwneud cais am drwydded i ollwng elifion masnach neu elifion cymysg.

Diweddarwyd ddiwethaf