Parc Coedwig Coed y Brenin - Gardd y Goedwig, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gardd y Goedwig ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Dim ond deiliaid Bathodyn Glas all ddefnyddio'r maes parcio bychan hwn.

Mae llwybr hygyrch yn cychwyn oddi yno trwy ran isaf gardd y goedwig.

Ceir bwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio.

Mae llwybr cerdded hirach drwy ardd y goedwig o faes parcio Pandy gerllaw.

""

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Gardd y Goedwig

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.2 milltir/0.3 cilomedr
  • Amser: 20 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith hygyrch yn llwybr gwastad 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn gyda mannau gorffwys o leiaf bob 100m. Nid oes dim grisiau na chamfeydd.

Dilynwch yr arwyddbyst o faes parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas dros y bont a thrwy ran isaf gardd y goedwig.

Yn yr olygfan, sy’n edrych dros y rhaeadr, gwrandewch ar stori Pont Llam yr Ewig.

Parc Coedwig Coed y Brenin

Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Gardd y Goedwig wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

  • maes parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas yn unig.
  • llwybr hygyrch
  • bwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae maes parcio Gardd y Goedwig 6½ milltir i'r gogledd o Ddolgellau.

Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau.

Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.

Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.

Wrth groesffordd ychydig ar ôl maes parcio Glasdir trowch i'r chwith i fyny'r rhiw.

Trowch i'r dde wrth y groesffordd nesaf, croeswch bont fechan ac ewch heibio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Mae maes parcio Gardd y Goedwig ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar y chwith.

Mae prif faes parcio Pandy tua 150 metr i fyny’r rhiw, ar y chwith.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 743 225 (Explorer Map OL 18).

Y cod post yw  LL40 2NL. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif gorsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Dim ond deiliaid Bathodyn Glas all ddefnyddio'r maes parcio bychain hwn.

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf