Y Clwb Cyrri sy’n gofalu am löyn byw prinnaf Cymru
Mae tîm o wirfoddolwyr a gweithwyr cadwraeth wedi dechrau traddodiad misol ar ôl cydweithio i ddiogelu glöyn byw prinnaf Cymru yn Old Castle Down, Bro Morgannwg.
Mae’r grŵp, sy’n cynnwys swyddogion prosiectau, gweithwyr cadwraeth a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i warchod y boblogaeth olaf yng Nghymru o’r Fritheg frown, wedi sefydlu’r arfer o gyfarfod i ddathlu eu llwyddiannau gyda’i gilydd dros gyrri.
Dechreuodd y traddodiad pan benderfynodd dau o’r gwirfoddolwyr hirdymor fynd ag un o’u cydweithwyr i fwyty cyrri i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn 2024. Cafodd y grŵp gymaint o hwyl, fe awgrymon nhw y gallai ddod yn ddigwyddiad misol.
Bob mis ers hynny, mae’r grŵp wedi trefnu eu ‘Clwb Cyrri’, sy’n gallu cynnwys mewn unrhyw fis penodol rhwng chwech a 13 o bobl. Er eu bod fel arfer yn mynd i Salkaara ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar ddau achlysur maen nhw hyd yn oed wedi bwyta yn yr awyr agored, gan drefnu i fwyd tecawê ar gyfer 11 o bobl gael ei ddanfon i ardal ar ymyl Old Castle Down.
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect y Fritheg Frown, un o 11 o brosiectau o dan Natur am Byth, rhaglen flaenllaw Cymru ar gyfer adfer rhywogaethau.
Mae’r gwaith yn Old Castle Down a’r ardal gyfagos, a wneir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Gloÿnnod Byw, yn cynnwys rheoli’r cynefin bregus fel y gall y Fritheg frown ffynnu, yn ogystal â chynnal arolygon o’r rhywogaeth ei hun i fonitro ei niferoedd.
Meddai Dot Williams, Swyddog Cyflawni Prosiectau ar gyfer Gwarchod Gloÿnnod Byw:
“Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i amddiffyn y boblogaeth olaf o’r Fritheg frown yng Nghymru mor bwysig ac mae’n anhygoel gweld bod cymaint o wirfoddolwyr llawn mor angerddol â ni eisiau ei gweld yn goroesi.
“Mae ein ‘Clwb Cyrri’ bob amser yn noson arbennig ac yn gyfle gwych i atgyfnerthu’r cyfeillgarwch o fewn y grŵp fel ein bod ni wir yn teimlo’n rhan o gymuned.
“Mae’r digwyddiadau cymdeithasol hyn yn rhoi rhywbeth ychwanegol inni edrych ymlaen ato ac yn gyfle i ddathlu’r holl waith caled sy’n cael ei wneud i sicrhau goroesiad y rhywogaeth brin a hyfryd hon.”
Mae prosiect y Fritheg Frown ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer gwaith monitro cynefinoedd ym mis Mai a chyfrif gloÿnnod byw drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf. Am fanylion am y digwyddiadau hyn, anfonwch e-bost at naturambyth@cyfoethnaturiol.cymru