Erlyniad llwyddiannus ar ôl storio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle yn Sandycroft
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i erlyn Endurmeta Ltd a'i gyfarwyddwr am weithredu safle gwastraff anghyfreithlon a methu â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol i glirio gwastraff.
Yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 16 Rhagfyr 2025, plediodd y cwmni a'i gyfarwyddwr, Mr Ian Glasbrook, yn euog i weithredu heb drwydded amgylcheddol a methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
Cafodd Mr Glasbrook ddirwy o £3,077, gorchmynnwyd iddo dalu £7,687 mewn costau a gordal dioddefwr, a'i wahardd fel cyfarwyddwr cwmni am dair blynedd o 29 Ebrill 2026 ymlaen.
Mae gorchymyn adfer a osodwyd gan y llys yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni a'r cyfarwyddwr gael gwared ar yr holl wastraff sy'n weddill erbyn 29 Ebrill 2026. Cafodd Endurmeta Ltd ddirwy o £3,350 a gorchmyn i dalu gordal dioddefwr.
Rhwng mis Awst 2023 a mis Chwefror 2025, bu Endurmeta Ltd yn rhedeg gwaith trin gwastraff ar Ystad Ddiwydiannol Deva, Sandycroft. Roedd y cwmni yn storio ac yn trin gwastraff gan gynnwys carpedi, matresi a chetris argraffyddion o dan esemptiadau gwastraff. Mae'r esemptiadau hyn yn caniatáu gweithgareddau gwastraff risg isel heb drwydded amgylcheddol lawn, ond hynny’n unig os yw amodau llym yn cael eu bodloni.
Canfu swyddogion CNC nad oedd y safle yn ddiogel a bod y gwastraff yn cael ei storio am ormod o amser, a oedd yn torri amodau’r esemptiad. O ganlyniad, canslwyd yr esemptiadau a chyhoeddwyd hysbysiad cyfreithiol o dan Adran 59 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwmni gael gwared ar y gwastraff. Methodd Endurmeta Ltd â chydymffurfio, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwastraff yn parhau i fod ar y safle.
Meddai Carys Williams, Arweinydd Tîm Rheoleiddio a Gorfodi Gwastraff CNC:
"Mae cydymffurfio ag eithriadau gwastraff yn hanfodol er mwyn diogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl. Mae'r esemptiadau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer gweithgareddau gwastraff risg isel, ond dim ond pan fodlonir eu hamodau. Mae torri corneli yn tanseilio busnesau cyfreithlon ac yn cynyddu risgiau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus. Bydd ein swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa wrth i'r gwastraff sy'n weddill gael ei symud o dan orchymyn y llys."