Dedfrydu dynion am ddympio gwastraff ar dir fferm yng Nghaerdydd

Cafodd dau ddyn eu dirwyo am ddympio gwastraff yn anghyfreithlon ar dir fferm yng Nghaerdydd yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Cafodd Kyle Gordon Mason a John Brian Janes eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ar ôl pledio'n euog i droseddau gwastraff.
Cafodd Mr Mason, 46 oed o Dickens Avenue, Llanrhymni, Caerdydd, ei ddedfrydu ar 1 Awst 2025 i 14 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis. Cafodd hefyd orchymyn i dalu £200 mewn costau i CNC a gordal dioddefwr anhysbys.
Cafodd Mr Janes, 52 oed o New Road, Tredelerch, Caerdydd, ei ddedfrydu mewn gwrandawiad cynharach ar 2 Mai 2025 a'i orchymyn i dalu dirwy o £500, £750 mewn costau i CNC a gordal dioddefwr o £200.
Yn 2021, dechreuodd CNC ymchwiliad yn dilyn achos o ddympio gwastraff cymysg o gartrefi, gwastraff adeiladau a gwastraff gwyrdd mewn tri chae ger Parc Busnes Llaneirwg yng Nghaerdydd. Mae rhywfaint o'r tir hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Cafodd sawl llond fan o wastraff eu canfod mewn tri chae a oedd yn perthyn i dri pherchennog tir gwahanol, a daethpwyd o hyd i dystiolaeth a oedd yn ymwneud â'r ddau ddiffynnydd a'r busnesau yr oedd Mr Mason yn gyfarwyddwr arnynt ymysg y gwastraff.
Parhaodd yr ymchwiliad tan 2022. Llwyddodd Liberton Investigations i ganfod darn o ffilm gwyliadwriaeth ar 10 Mehefin 2022 yn dangos cerbyd cefn agored gyda’r platiau rhif wedi'u tynnu yn gyrru i mewn i un o'r caeau yn cario'r hyn a oedd yn ymddangos fel gwastraff, ac yna’n gadael yn wag.
Cafodd Mr Mason a Mr Janes eu cyfweld yn ystod yr ymchwiliad ond gwnaethant wadu’r troseddau gwastraff. Fodd bynnag, oherwydd y dystiolaeth a gasglwyd yn eu herbyn, gwnaethant bledio’n euog yn y llys yn ddiweddarach.
Plediodd Mr Mason yn euog i ddympio pum llond fan o wastraff yn y caeau hyn a phlediodd Mr Janes yn euog i ddympio llond bag o wastraff cartref.
Dywedodd John Rock, Rheolwr Gweithrediadau CNC:
“Gall gwastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon gael effaith ddinistriol ar fusnesau ffermio a chymunedau gwledig. Gall cael gwared o’r gwastraff fod yn hynod o gostus a chymryd llawer o amser a gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a da byw.
“Dangosodd Kyle Mason a John Janes ddiffyg parch llwyr at yr amgylchedd drwy ddympio eu gwastraff ar dir fferm. Hefyd, fe wnaeth Mr Mason osgoi talu costau gwaredu cyfreithlon ar gyfer y gwastraff sy’n cael ei gasglu gan ei fusnes, sy’n tanseilio busnesau cyfreithlon sy’n cadw at y rheolau.
“Mae’r broses o gydweithio â Heddlu Gwent ar yr achos hwn wedi bod yn hynod o fuddiol a hoffem hefyd ddiolch i drigolion Caerdydd a ddarparodd dystiolaeth ategol ar gyfer yr achos hwn.
“Dylai pobl fod yn wyliadwrus o dipio anghyfreithlon. Osgowch roi eich gwastraff yn eu dwylo drwy wirio fod ganddyn nhw drwydded cludo gwastraff yn cyfoethnaturiol.cymru/gwiriogwastraff.”
Mae dedfrydu, gan gynnwys dirwyon, am droseddau amgylcheddol yn cael ei benderfynu gan y llysoedd ac yn seiliedig ar lefel y difrod, beiusrwydd, a modd ariannol y diffynyddion.
Dylid rhoi gwybod am ddympio gwastraff ar raddfa fawr neu ddifrod i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i ganolfan gyfathrebu digwyddiadau 24/7 CNC ar-lein yn cyfoethnaturiol.cymru/rhowchwybod neu drwy ffonio 03000 65 3000.