Blog tywydd sych 2026
Diweddariadau am y tywydd sych yn 2026
30 Gorfennaf 2026
Ein statws
Statws sychder bellach yn berthnasol dros Gymru gyfan
Wrth i'r tywydd poeth a sych barhau, ac yn dilyn adroddiadau parhaus o ddirywiad pellach yn yr amodau ar draws y wlad, heddiw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymestyn y statws sychder ar draws Cymru gyfan.
Mae’r prif ddalgylchoedd y mae’r newid i statws 'sychder' heddiw yn effeithio arnyn nhw yn cynnwys:
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd a Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
- Abertawe a Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Teifi
- Gogledd Ceredigion
Cadarnhawyd bod dalgylchoedd Gogledd Cymru a Hafren Uchaf (Cymru) mewn statws sychder yr wythnos diwethaf (23 Gorffennaf).
Dyma'r trydydd gwaith i’r statws sychder gael ei newid dros y tair wythnos diwethaf, sy’n dangos pa mor gyflym mae’r amodau wedi bod yn dirywio yn ystod y cyfnod eithriadol o gynnes a sych hwn.
Mae dosbarthiadau sychder CNC yn seiliedig ar ddangosyddion ac effeithiau hydrolegol ac amgylcheddol, gan gynnwys llif afonydd, lefelau dŵr daear, glawiad, lefelau lleithder y pridd a phwysau ar ecosystemau, amaethyddiaeth a gweithgarwch rheoli tir. Mae cwmnïau dŵr yn gweithredu eu cynlluniau sychder eu hun ac yn defnyddio trothwyon ar wahân ar gyfer penderfyniadau sy'n ymwneud â chyflenwad dŵr a chyfyngiadau i gwsmeriaid.
Y sefyllfa o ran dŵr
Mae mis Gorffennaf wedi bod yn eithriadol o sych ledled Cymru. Ar 27 Gorffennaf, dim ond 8% o'r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y mis roedd Cymru wedi’i gael, gan olygu bod mis Gorffennaf eleni yn debygol o fod y sychaf ers dechrau’r cofnodion 190 mlynedd yn ôl. Dim ond rhyddhad cyfyngedig yn y tymor byr y mae glaw diweddar wedi'i roi, gan helpu i wlychu’r pridd a lleihau'r risg o dân dros dro mewn rhai lleoliadau.
Mae lefelau afonydd yn parhau i fod yn isel ym mhob cwr o Gymru, gyda rhai afonydd wedi cyrraedd lefelau eithriadol o isel am yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ac yn is na'r disgwyl mewn nifer o safleoedd monitro.
Mae'r penderfyniad i ymestyn statws sychder i Dde Cymru yn seiliedig ar gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys llif afonydd eithriadol o isel, glawiad isel iawn ar draws dalgylchoedd, lefelau dŵr daear sy'n gostwng, adroddiadau cynyddol am effaith amgylcheddol a rhagolygon sy'n nodi’r posibilrwydd o dywydd sych a phoeth pellach.
Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn parhau i fod mewn grym yng Nghanolbarth a De Ceredigion a chaiff cwsmeriaid eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Cyfeiriwch at wefannau'r cwmnïau dŵr i weld y sefyllfa ddiweddaraf o ran lefelau cronfeydd dŵr a chyflenwad dŵr.
Pryderon
Ledled Cymru, mae adroddiadau cynyddol wedi dod i law ein cydweithwyr ynglŷn ag effeithiau ar yr amgylchedd ac ar y tir, sy'n gysylltiedig â'r sychder. Mae'r rhain yn cynnwys gwelyau afonydd yn sychu, pysgod mewn trallod, gordyfiant algâu, pwysau ar weithgarwch amaethyddol a risg barhaus o danau gwyllt.
Mae’r pryderon penodol sydd wedi cael eu hadrodd gan dimau yn cynnwys:
- Afonydd a llednentydd yn sychu mewn sawl lleoliad.
- Adroddiadau am bysgod mewn trallod ac achosion ynysig o bysgod yn marw.
- Pwysau cynyddol ar ecosystemau’r tir a’r dŵr.
- Ffermwyr yn adrodd am lai o laswellt yn tyfu, effaith ar gnydau a phryderon ynglŷn â chyflenwadau dŵr i dda byw.
- Pryderon parhaus ynglŷn â’r risg o danau gwyllt yn dilyn tanau helaeth yn gynharach eleni.
Mae CNC hefyd yn parhau i fod yn bryderus am yr effaith ar iechyd afonydd, lefelau dŵr daear, llesiant pysgod, bywyd gwyllt a'r amgylchedd naturiol ehangach.
Ein hymateb a'n cyngor
Mae cynlluniau rheoleiddio hefyd yn parhau i fod ar waith i helpu i gefnogi llif afonydd a'r amgylchedd lle bo modd, yn ogystal â rheolaethau tynnu dŵr yn unol â thrwyddedau presennol. Mae CNC hefyd yn gweithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd ac aelodau eraill Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro’r amodau a chydlynu ymatebion.
Hoffem atgoffa deiliaid trwyddedau tynnu dŵr i wirio amodau eu trwyddedau, yn arbennig a oes amod 'llif annibynnol' yn berthnasol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i roi’r gorau i weithgarwch tynnu dŵr pan fydd llif afonydd yn isel iawn, er mwyn amddiffyn yr amgylchedd, ac mae'n debygol o fod wedi dod i rym yn y sefyllfa bresennol.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â’r tywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor hefyd ar gael gan Waterwise.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i’r dŵr yr haf hwn.
Gellir rhoi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24 awr CNC ar 0300 065 3000, neu drwy ein gwefan.
Y rhagolygon
Mae'r rhagolygon yn dangos risg barhaus o dywydd sych dros yr wythnosau nesaf, gyda'r posibilrwydd o gyfnodau pellach o dywydd poeth dros weddill yr haf. Bydd CNC yn parhau i fonitro’r amodau'n agos ac adolygu’r statws sychder ledled Cymru wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
26 Gorfennaf
Ein statws
Yn dilyn adolygiad o amodau hydrolegol ac amgylcheddol ledled Cymru, rydym wedi penderfynu symud rhannau o ogledd Cymru a Hafren Uchaf o statws 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych' i statws 'Sychder'.
Dyma’r dalgylchoedd yr effeithir arnynt:
- Gogledd Gwynedd, gan gynnwys Ynys Môn
- De Gwynedd
- Dyfrdwy (Cymru)
- Clwyd
- Hafren Uchaf
Mae diffiniad CNC o 'Sychder' yn golygu bod dangosyddion hydrolegol yn dangos cyfnod sylweddol o lif isel mewn afonydd, llai o lawiad, lefelau dŵr daear sy'n gostwng ac amodau pridd sych. Mae hefyd yn adlewyrchu effeithiau cynyddol ar ecosystemau, amaethyddiaeth a rheoli tir.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud oherwydd y rhesymau canlynol:
- Mae llif yr afonydd yn eithriadol o isel ar draws y dalgylchoedd yr effeithir arnynt, gyda rhai lleoliadau yn cyrraedd y lefelau isaf misol.
- Mae'r rhan fwyaf o ddalgylchoedd wedi cael llai nag 20% o'r glawiad a ddisgwylir yn ystod mis Gorffennaf.
- Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ac maent yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
- Mae effeithiau amgylcheddol ac amaethyddol yn dod yn fwyfwy cyffredin.
- Mae'r rhagolygon yn awgrymu tywydd sych parhaus a'r posibilrwydd o gyfnodau poeth pellach.
- Mae tymereddau uchel yn parhau i roi pwysau ar afonydd ac ecosystemau dyfrol.
Rydym hefyd wedi symud dalgylchoedd ar draws de-orllewin Cymru o statws 'Normal' i statws 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych'.
Y dalgylchoedd hyn yw:
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd a Bro Morgannwg
- Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr
- Abertawe a Llanelli
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
- Teifi
- Gogledd Ceredigion
Mae ein penderfyniadau’n seiliedig ar bryderon cynyddol ynghylch yr effeithiau ar yr amgylchedd, amaethyddiaeth a rheoli tir ledled Cymru.
Sefyllfa o ran dŵr
Hyd yn hyn, ychydig iawn o law sydd wedi bod ledled Cymru ym mis Gorffennaf.
Hyd at 21 Gorffennaf, mae rhai o'r amodau sychaf yn y rhan hon o Gymru wedi'u cofnodi yn nalgylchoedd Hafren Uchaf, Gwynedd a Chlwyd, lle cafwyd llai na 2% o'r glawiad disgwyliedig ar gyfer mis Gorffennaf. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, nid yw llawer o ogledd Cymru wedi gweld unrhyw law ers 6 Gorffennaf.
Os bydd yr amodau hyn yn parhau am weddill y mis, disgwylir mai mis Gorffennaf 2026 fydd y mis Gorffennaf sychaf a gofnodwyd yng Nghymru ers bron i 190 o flynyddoedd.
Mae lefelau afonydd mewn sawl rhan o ogledd Cymru a Hafren Uchaf yn eithriadol o isel, gan gynnwys dalgylchoedd Clwyd, Dyfi, Alun, Clywedog, Conwy a Thanat. Mae llifoedd isaf misol newydd eisoes wedi'u cofnodi yn Afon Clwyd ac ar Afon Erch ar Benrhyn Llŷn, tra bod llifoedd sawl afon arall yn agos at fod ar y lefelau isaf erioed.
Yn ne Cymru, mae amodau'n amrywio rhwng normal ac eithriadol o isel, gyda rhai o'r effeithiau mwyaf i'w gweld yn nalgylchoedd Wysg, Gwy, Cleddau a Theifi.
Mae tymheredd afonydd yn parhau i fod yn bryder, gyda sawl afon gan gynnwys afonydd Dyfrdwy, Gwy, Wysg, Tywi a Thaf yn cofnodi tymheredd o 20°C neu uwch. Mae lefelau dŵr daear yn parhau i ostwng ledled Cymru, gyda rhai safleoedd yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.
Er bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach ar y cyfan, mae galw mawr am ddŵr yn parhau i greu pwysau ar gyflenwadau mewn rhai ardaloedd. Mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn parhau mewn grym yng Nghanolbarth a De Ceredigion ac anogir cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Ein hymateb a'n cyngor
Mae ein timau sychder yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd ac maent bellach yn gweithredu'r camau a nodir yng Nghynllun Sychder CNC.
Ar gyfer gogledd Cymru a Hafren Uchaf, rydym yn dilyn ein mesurau ymateb i sychder, tra bod camau ‘cyfnod hir o dywydd sych’ yn parhau i fod ar waith ar draws de Cymru. Byddwn yn parhau i adolygu amodau a diweddaru ein statws yn ôl yr angen.
Mae ein timau yn cynnal mwy o waith monitro, wedi cynyddu archwiliadau mewn lleoliadau allweddol ac yn parhau i ymateb i ddigwyddiadau yn unol â'n gweithdrefnau ledled Cymru.
Rydym yn darparu cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thanau gwyllt. Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
Yn ddiweddar, cafodd misglod perlog yn Afon Eden eu symud i ddŵr dyfnach i leihau'r risg a achosir gan ostyngiad o ran lefelau dŵr.
Mae cyfyngiadau presennol ar drwyddedau tynnu dŵr yn cael eu cymhwyso i gyfyngu ar dynnu dŵr pan gyrhaeddir trothwyon penodol, tra bod cynlluniau rheoleiddio afonydd gan gynnwys Dyfrdwy, Hafren, Tywi, Clwyd a Gwy yn parhau i gefnogi llif afonydd ac amddiffyn cynefinoedd a rhywogaethau sy'n dibynnu ar systemau afonydd.
Yn ddiweddar, mae mwy o ddŵr wedi’i ollwng o gronfeydd dŵr i Afon Dyfrdwy ac Afon Aled er budd pysgodfeydd ac ecoleg yr afonydd yn ystod cyfnodau o wres eithafol.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chwmnïau dŵr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill drwy Grŵp Cyswllt Sychder Cymru.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr. Mae rhagor o gyngor ar gael hefyd gan Waterwise.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i ddŵr yr haf hwn.
Pryderon
Rydym yn parhau i bryderu am y pwysau y mae’r cyfnod hir o dywydd sych ac amodau sychder yn ei roi ar afonydd, dŵr daear, bywyd gwyllt, pysgodfeydd, tir ac amgylchedd naturiol ehangach Cymru.
Gall llif isel mewn afonydd a thymheredd dŵr cynhesach effeithio ar les pysgod a’u gallu i fudo, tra bod amodau sych yn cynyddu'r pwysau ar gynefinoedd a rhywogaethau sy'n dibynnu ar afonydd, gwlyptiroedd a phriddoedd iach.
Rydym hefyd yn gweld effeithiau cynyddol ar amaethyddiaeth. Mae tywydd poeth a sych parhaus yn effeithio ar dwf glaswellt ac argaeledd porthiant, ac yn cynyddu pryderon ynghylch lles da byw ac argaeledd dŵr ar ffermydd.
Mae pryderon penodol yng ngogledd Cymru a Hafren Uchaf yn cynnwys:
- Cynefinoedd glaswelltir pwysig yn mynd yn sych cyn i blanhigion gael cyfle i flodeuo a hadu.
- Mawndiroedd yn sychu a chracio, gan gynyddu'r risg o danau gwyllt ac effeithio ar gynefinoedd bywyd gwyllt pwysig.
- Tanau gwyllt parhaus yng ngogledd-orllewin Cymru ac adroddiadau am danau llai mewn mannau eraill.
- Llifoedd isel iawn mewn afonydd a nentydd, gyda rhai cyrsiau dŵr llai yn sychu a throi’n byllau ynysig.
- Adroddiadau cynyddol gan ffermwyr am gyflenwadau porthiant gaeaf yn cael eu defnyddio'n gynnar a ffynonellau dŵr amaethyddol yn sychu.
- Adroddiadau bod cyflenwadau dŵr preifat yn cael eu heffeithio gan yr amodau sych parhaus.
Rhagolwg
Mae'r rhagolygon yn awgrymu bod amodau sych yn debygol o barhau dros yr wythnos nesaf, er bod rhywfaint o botensial ar gyfer tywydd mwy ansefydlog tua diwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst.
Mae tebygolrwydd uchel hefyd o donnau gwres pellach yn ystod gweddill yr haf.
Heb law sylweddol a pharhaus, gallai dalgylchoedd ychwanegol symud i sychder yn gyflymach nag a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
16 Gorffennaf 2026
Cyhoeddi statws ‘cyfod hir o dywydd sych’ ar gyfer gogledd a de-ddwyrain Cymru.
Ein statws
Ar hyn o bryd mae Cymru'n profi cyfnod hir o dywydd sych sy'n cael ei waethygu gan donnau gwres ar draws rhannau o Gymru. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu symud dalgylchoedd yng Ngogledd Cymru, Hafren Uchaf a De-ddwyrain Cymru o statws 'Normal' i 'Gyfnod Hir o Dywydd Sych'.
Mae 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych' yn golygu bod dangosyddion hydrolegol yn dangos llif isel am gyfnod estynedig mewn afonydd, gostyngiad o ran lefelau dŵr daear a llai o law ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae dangosyddion eraill yn dangos llai o leithder yn y pridd, mwy o adroddiadau am effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwad dŵr a sectorau eraill. Mae'r penderfyniad i newid i'r statws hwn ar draws rhannau o Gymru yn seiliedig ar gyrraedd y rhan fwyaf o'r dangosyddion hyn a phryderon sy'n dod i'r amlwg ynghylch yr amgylchedd a rheoli tir.
Mae ein penderfyniad wedi cael ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, dan gadeiryddiaeth Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys uwch wneuthurwyr penderfyniadau o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.
Yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y newid o ran statws heddiw yng Nghymru yw:
- Dyfrdwy (Cymru)
- Clwyd
- Hafren Uchaf
- Gogledd Gwynedd (Conwy, Ynys Môn, Arfon, Dwyfor)
- De Gwynedd (Meirionnydd)
- Gwy (Cymru)
- Wysg
- Y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
- Bro Morgannwg (Dawan)
Rydym yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol. Mae'r sefyllfa ddiweddaraf i'w gweld ar wefan gov.uk.
Sefyllfa o ran Dŵr
Yn ôl y sefyllfa ar 16 Gorffennaf 2026, prin iawn y mae wedi bwrw glaw os o gwbl ym mis Gorffennaf hyd yn hyn ar draws dalgylchoedd Cymru, gyda dim ond 0-10% o Gyfartaledd Hirdymor (LTA) Gorffennaf (1981-2010). Mae hyn yn dilyn cyfnod o dri mis sychach na'r cyfartaledd rhwng Ebrill a Mehefin 2026 lle'r oedd glawiad cronnus Cymru yn 86% o'r hyn a ddisgwylid ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn. Er bod rhannau o Gymru wedi derbyn glaw dros y tri mis diwethaf, derbyniodd rhai dalgylchoedd, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lawiad is na'r cyfartaledd.
Mae'r diffyg glawiad, wedi'i waethygu gan y tonnau gwres diweddar, wedi golygu bod y rhan fwyaf o afonydd ledled Cymru bellach yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae rhai afonydd yn eithriadol o isel megis Clwyd, Alwen, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy, ac Afon Gwy.
Mae mesurau rheoleiddio afonydd yn weithredol i gefnogi llifoedd gan gynnwys ar afonydd Dyfrdwy, Hafren, Clwyd a Gwy. Mae bron i hanner y llif yn rhan isaf Afon Gwy yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan ollyngiadau o Gronfa Ddŵr Elan, gan dynnu sylw at raddau’r gostyngiad o ran llif naturiol.
Mae tymheredd yr afonydd wedi bod ar neu uwchlaw 20ºC, gan gynnwys afon Gwy ac afon Wysg sydd wedi cyrraedd uchafbwynt o dros 26ºC. Mae lefelau dŵr daear hefyd yn gostwng ledled Cymru, gyda rhai tyllau turio yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Mae priddoedd yn sych ar hyn o bryd neu ymhell islaw capasiti caeau (COSMOS).
Pryderon
Rydym yn pryderu am y pwysau y mae diffyg glawiad sylweddol a thymheredd poeth wedi'i roi, ac y bydd yn parhau i'w roi, ar lefelau dŵr daear, afonydd, lles eogiaid, mudiad pysgod, bywyd gwyllt, tir y mae CNC yn ei reoli a'r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru.
Rydym yn dechrau gweld/derbyn adroddiadau am welyau afonydd sych fel Dulas a Gallen yng Ngogledd Cymru, pysgod mewn trallod a physgod marw, tanau gwyllt eang a chyfyngiadau llif isel ar drwyddedau tynnu dŵr yn dod i rym.
Mae pryderon hefyd ynghylch safleoedd gwarchodedig fel corsydd, mawndiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd sy'n gartref i lawer o rywogaethau.
Mae effaith y gwres hefyd yn cael ei theimlo yng nghefn gwlad, gan arwain at gyhoeddi digwyddiad difrifol y penwythnos diwethaf yn dilyn nifer o danau gwyllt dinistriol yng ngogledd Cymru.
Ein hymateb a'n cyngor
Bydd ein timau sychder ledled Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd a byddant nawr yn dilyn y camau gweithredu 'Cyfnod Hir o Dywydd Sych’ o fewn ein cynllun sychder ar gyfer yr ardaloedd hyn o Gymru. Byddwn hefyd yn adolygu'r sefyllfa yn yr ardaloedd hyn ac mewn rhannau eraill o Gymru (De-orllewin) ac yn adrodd ar unrhyw newid statws yn unol â hynny.
Mae ein timau wedi cynyddu gwaith monitro a gwiriadau mewn lleoliadau pwysig a byddant yn ymateb i ddigwyddiadau ar lawr gwlad yn unol â'n gweithdrefnau. Nid oes angen ymweld â'r safle ar gyfer pob adroddiad. Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, barn arbenigol a data i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb.
Mae cyfyngiadau tynnu dŵr ar waith ledled Cymru yn unol â thrwyddedau. Mae cynlluniau rheoleiddio gan gynnwys afonydd Dyfrdwy a Gwy yn gweithredu yn unol â chytundebau gyda chwmnïau dŵr, CNC a rheoleiddwyr eraill.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (i drafod dalgylchoedd a rennir), cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.
Rydym yn cynghori pysgodfeydd a physgotwyr i gymryd gofal arbennig wrth bysgota am eogiaid mewn tymereddau uchel, ac i stopio lle mae tymheredd y dŵr yn cyrraedd 20 gradd celsius.
Rydym yn darparu cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub i fynd i'r afael â thanau gwyllt. Os ydych chi’n gweld tân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.
Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon yn ymwneud â thywydd sych.
Lansiwyd 'Dewch i Arbed Dŵr' ledled Cymru a Lloegr – gyda chefnogaeth rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr. Ewch i www.letssavewater.cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch arbed dŵr.
Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i linell gymorth 24/7 CNC ar 0300 065 3000.
Gweler ein cyngor ni a chyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â mynd i mewn i ddŵr yr haf hwn.
Rhagolwg
Mae'r rhagolygon yn dangos y bydd y tywydd yn parhau i fod yn sych dros yr wythnos nesaf. Rydym yn arbennig o bryderus am yr amodau yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy a Hafren Uchaf, heb unrhyw law nodedig a pharhaus byddai hyn yn arwain at y dalgylchoedd hyn yn cyrraedd statws sychder yn gyflymach na blynyddoedd blaenorol.
Sut rydym yn diffinio sychder
Er bod gwahanol lefelau, graddfeydd a diffiniadau o sychder, nodweddir pob sychder gan brinder glawiad. Mae pob math o sychder yn wahanol gyda'r natur, yr amseriad a'r effeithiau'n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy'n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (a all ddigwydd gyda'i gilydd):
- Sychder amgylcheddol – llifoedd isel a lleithder pridd is yn effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o'r math hwn arwain at effeithiau hirdymor sylweddol os bydd yn parhau dros gyfnod estynedig.
- Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder yn y pridd yn effeithio ar gynnyrch (a / neu ansawdd) cnydau a lles da byw.
- Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael ar gyfer cyflenwad cyhoeddus oherwydd llif afonydd is, llai o ddŵr mewn cronfeydd dŵr neu ddŵr daear is.
Mae gan unrhyw gyfuniad o'r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a lles pobl yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ac economaidd.
Rhan o'n gwaith ni yw monitro'r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Gan ddefnyddio hyn rydym yn dosbarthu cyfnodau o sychder yn bedwar cam:
- Normal – Dangosyddion o fewn yr ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, a all gynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael.
- Cyfnod hir o dywydd sych – Mae dangosyddion yn dangos cyfnodau hir o lif isel mewn afonydd a glawiad isel ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, lefelau lleithder is mewn pridd, mwy o adroddiadau o effeithiau ar ecosystemau, tir, cyflenwadau dŵr neu ar sectorau eraill.
- Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau afonydd isel a phrinder glawiad. Effeithiau sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau difrifol o bosibl.
- Adferiad ar ôl cyfnod hir o dywydd sych a/neu sychder – Dychwelyd i'r ystodau arferol ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y cyfnod hir o dywydd sych a/neu'r sychder blaenorol, efallai y bydd difrod amgylcheddol, allbwn amaethyddol llai neu gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr o hyd.
Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael i'r cyhoedd. Gall eu statws sychder amrywio hefyd. Maent fel arfer yn defnyddio'r camau 'normal', 'sychder sy'n datblygu', 'sychder' a 'sychder difrifol' a byddant yn defnyddio eu trothwyon eu hunain i ddiffinio eu safle sy'n aml yn gysylltiedig â'u sefyllfa o ran cyflenwad dŵr. Gweler cynlluniau sychder cwmnïau dŵr am ragor o wybodaeth.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Unwaith y bydd cyfnod hir o dywydd sych wedi'i ddatgan, bydd CNC yn cynyddu ei gamau gweithredu i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl. Mae'r camau gweithredu hyn yn cynnwys:
- Ehangu ei waith monitro a chynyddu nifer y gwiriadau mewn lleoliadau pwysig.
- Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder (unwaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith) ac yn paratoi ar gyfer unrhyw fesurau ychwanegol yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio yn gweithredu i gefnogi tynnu dŵr a'r amgylchedd.
- Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded, y mae llawer ohonynt yn cyfyngu ar faint y gellir ei dynnu yn ystod cyfnodau o lif isel.
- Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl yr angen.
- Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor ar dywydd sych i ffermwyr
- Ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (trawsffiniol) a phartneriaid eraill.
Os byddwn yn mynd i gyfnod o sychder, bydd ein camau gweithredu yn cael eu dwysáu eto ac yn cynnwys gweithgareddau fel ymateb i geisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder neu weithredu cyfyngiadau pellach ar ddefnyddwyr dŵr, fel chwistrellwyr dyrfhau.