Swyddog Arbenigol, Rheolaeth Arfordirol

Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan 31/03/2026 gyda phosibilrwydd o estyniad

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 203885

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am yr amgylchedd morol ac yn brofiadol ym maes dadansoddi data amgylcheddol gofodol? Ymunwch â Thîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru a helpwch i wella cydnerthedd ardaloedd morol gwarchodedig ledled Cymru.

Byddwch yn arwain ar asesu gofodol a mapio morol i ddeall ac ymdrin ag effeithiau 'cywasgu arfordirol' - colli cynefinoedd arfordirol hanfodol oherwydd cynnydd yn lefel y môr a datblygiad arfordirol. Bydd eich gwaith yn llunio camau gweithredu sy'n cynyddu bioamrywiaeth, gan wella cyflwr safleoedd morol gwarchodedig a gwella gwydnwch a chysylltedd ein cynefinoedd a'n rhywogaethau.

Bydd y rôl yn cynnwys dadansoddiad gofodol, rheoli prosiectau a chefnogi defnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr i ddeall data gofodol.  Bydd y ffocws cychwynnol yn cynnwys:

  • Dadansoddiad pellach o ddata o brosiect diweddar "Ymchwilio i raddfa dirywiad nodweddion ardal forol warchodedig o ganlyniad i wasgfa arfordirol" i fireinio allbynnau a chyfathrebu negeseuon allweddol;
  • Asesu canlyniadau gweithdai gyda rhanddeiliaid i lunio camau gweithredu yn y dyfodol sy’n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau'r wasgfa arfordirol.
  • Cefnogi aelodau'r tîm drwy ddarparu dadansoddiad gofodol a chyflwyniad data i lywio cynllunio morol ar draws moroedd Cymru, gan gynnwys mapio strategol o gyfleoedd i wella cydnerthedd a mapio ystyriaethau amgylcheddol. 

Mae'r rôl hon yn rhan o Raglen Rhwydweithiau Natur Forol, rhaglen bum mlynedd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru. Mae cyllid cychwynnol wedi'i sicrhau am flwyddyn, gyda'r posibilrwydd o estyniad.

Dewch i ymuno â'n gweithlu cyfeillgar, i elwa ar ein amodau gweithio hyblyg, a bod yn rhan o'r ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur y mae ein byd yn eu hwynebu. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Helen Bloomfield at Helen.Bloomfield@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Gair amdanom ni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi rhaglen gyffrous newydd o waith morol ar waith gyda chymorth Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cyflawni prosiectau sy'n adeiladu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar wella cyflwr safleoedd gwarchodedig. Bydd CNC yn cyflwyno cyfres o brosiectau sy’n canolbwyntio ar arfordiroedd a moroedd Cymru. Yn ogystal, byddwn yn gwneud gwaith dichonoldeb a thystiolaeth a fydd yn ein helpu i roi gwell rheolaeth ar waith ar gyfer ein harfordiroedd a’n moroedd yn y dyfodol.

Yn y rôl hon, byddwch yn eistedd o fewn y Tîm Polisi a Chynllunio Morol ac Arfordirol ac yn gweithio'n agos ag ystod o arbenigwyr technegol yn CNC, a phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth.
  • Arwain y gwaith o baratoi deunydd i gyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi, cyngor statudol a chanllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.  Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cydgysylltu â rhanddeilaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar fylchau mewn anghenion a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU; a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am ddulliau mapio sy'n nodi goblygiadau newidiadau mewn polisi, deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector.
  • Cynnal gwybodaeth am wasgfa arfordirol, i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi, cyngor a chanllawiau.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR

  1. Gwybodaeth o: ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE sy’n ymwneud â'r amgylchedd morol ac arfordirol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU ynghylch y wasgfa arfordirol a'r problemau a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o’r canlynol: dadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth amgylcheddol gymhleth a ffynonellau data ecosystemau morol ac arfordirol; dadansoddi setiau data mawr gan ddefnyddio GIS a meddalwedd dadansoddi data arall.
  3. Gweithio gyda/o fewn Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth natur statudol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, cyrff cyhoeddus a chyrff cynrychioliadol y sector morol.
  4. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
  5. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi’r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol:  Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf