Cyfreithiwr dan Hyfforddiant
Dyddiad cau: 26 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 2 £25,898 - £26,909 | Lleoliad: Caerdydd
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Cyfreithiol / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol
Cyflog cychwynnol: £25,898 yn codi i £26,909 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: 12 Mehefin 2025
Rhif swydd: 203620
Y rôl
Mae hon yn rôl lleoliad dwy flynedd ar gyfer un Hyfforddai Cyfreithiol sydd wedi cwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ac sy’n chwilio am swydd gyfreithiol dan hyfforddiant er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn profi'r holl waith y mae tîm cyfreithiol CNC yn ei wneud gan gynnwys gwaith masnachol, gwaith eiddo, ymgyfreitha, erlyn a gwaith rheoleiddio a datblygu'r holl sgiliau i gymhwyso fel cyfreithiwr.
O dan gyfarwyddyd y Prif Arferydd Hyfforddiant, byddwch yn cefnogi gwaith y tîm Cyfreithiol ar draws holl feysydd CNC. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cynorthwyo â chynhyrchu amserlenni achosion a rheoli ffeiliau achos a nodiadau.
- Cefnogi cydweithwyr i ddrafftio gwaith papur, cymryd nodiadau, cofnodi gwaith arddweud a dogfennau eraill i ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
- Datblygu sgiliau eiriolaeth a chyflwyniad llafar a datrys anghydfod trwy arsylwi achosion, cefnogi gyda chyflwyniadau a helpu i baratoi achosion.
- Cynorthwyo gyda drafftio dogfennau ac ymchwil gyfreithiol mewn perthynas â meysydd gwaith CNC.
- Arsylwi, ac ymhen amser datblygu ac ymarfer technegau cyd-drafod a chyfweld trwy ymarfer wedi'i gefnogi/hwyluso.
- Datblygu eich cysylltiadau proffesiynol a phroffesiynoldeb, moeseg a barn trwy gymryd rhan mewn gwaith fel rhan o dîm cyfreithiol proffesiynol.
- Datblygu strategaethau rheoli amser a rheoli gwaith gan gynnwys defnyddio systemau TGCh i reoli cofnodion a dogfennau.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Sarah Asbrey at sarah.asbrey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
CNC yw corff amgylcheddol mwyaf Cymru. Ein diben yw rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r tîm cyfreithiol yn cynorthwyo pob agwedd ar waith CNC.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwaith, a grëwyd gan y tîm, sy’n cyfrannu at gyflawni cynlluniau busnes.
- Cynnal ymchwil gyfreithiol a chynhyrchu a chynnal cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaeth a safonau y cytunwyd arnynt.
- Ymgymryd â'r cwrs sgiliau proffesiynol.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd allanol gydag aelodau eraill o'r tîm.
- Rhyngweithio â chymheiriaid mewn timau CNC eraill.
- Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Wedi cwblhau gradd berthnasol a Chwrs Ymarfer Cyfreithiol ac yn barod i gychwyn eich contract hyfforddi erbyn Hydref 2025.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da gyda ffocws ar y cwsmer. Y gallu i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
- Sgiliau TGCh da (hanfodol).
- Trwydded yrru lawn y DU (dymunol)
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.