Arweinydd Tîm a Chynorthwyydd Gweithredol i Gyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol / Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: 23 Mai 2025

Rhif swydd: 202408

Y rôl

Ymunwch â ni wrth galon y ddarpariaeth genedlaethol drwy gefnogi uwch arweinyddiaeth ein Cyfarwyddiaeth. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn arwain tîm o Gynorthwywyr Personol sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i Benaethiaid Busnes ar draws ein swyddogaethau cyflawni yng Nghymru.

Fel Cynorthwyydd Gweithredol i'r Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, byddwch yn chwarae rhan ganolog mewn cefnogaeth strategol a gweithredol - gan amrywio o reoli dyddiaduron a chydlynu cyfarfodydd i oruchwylio cynhyrchu deunyddiau briffio ar gyfer penderfyniadau ar lefel y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda dau Gynorthwyydd Gweithredol arall ac yn cymryd cyfrifoldebau rheoli llinell ar gyfer Cynorthwywyr Personol dethol o Gyfarwyddiaethau eraill, gan helpu i sicrhau cefnogaeth fusnes gyson, effeithlon a phroffesiynol ar draws y sefydliad.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Dom Driver at dominic.driver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Amdanom ni

Mae’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn integreiddio gwybodaeth a thystiolaeth mewn polisi i amlinellu sut rydym yn cyflawni ein tri amcan llesiant, Natur yn gwella, Cymunedau sy’n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, ac atal Llygredd.  Mae hefyd yn darparu nifer o wasanaethau gweithredol ar raddfa genedlaethol.  Mae'r Cynorthwyydd Gweithredol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o redeg tîm arwain y Gyfarwyddiaeth yn ddidrafferth.  Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â phob un o’n tri amcan llesiant gyda pherthynas agos â newidiadau yn y byd go iawn.  Bydd eich rôl hefyd yn rhan annatod o wella ein cynhyrchiant ymhellach, ynghyd â’n gallu i wneud penderfyniadau rhesymol ac amserol a gweithredu’n effeithiol.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Byddwch yn arwain ac yn datblygu eich tîm i weithredu a chynnal y lefelau uchaf o lywodraethu corfforaethol, gan gynnwys cymhwyso adroddiadau ariannol a llywodraethu da, gan sicrhau bod CNC yn dangos y safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol mewn perthynas â gwaith lefelau uchaf y sefydliad.
  • Byddwch chi yn bersonol yn darparu'r lefel uchaf o gymorth proffesiynol, effeithlon, gweinyddol ac ysgrifenyddol i'ch Cyfarwyddwr dynodedig.
  • Byddwch yn gyfrifol am weithio gyda chwsmeriaid proffil uchel a materion dadleuol ar draws y gyfarwyddiaeth, gan gynnwys gweithio gyda swyddfeydd Aelodau’r Senedd, Aelodau Seneddol y DU a Phrif Weithredwyr sefydliadau allanol.
  • Cynnal rheolaeth effeithiol ar y gyllideb.
  • Sicrhau bod eich tîm yn llawn cymhelliant, yn effeithiol ac yn arddangos gwerthoedd sefydliadol CNC trwy eu datblygu'n unigol ac fel tîm a thrwy reoli perfformiad yn effeithiol.
  • Gweithio gydag Arweinwyr Tîm Cymorth eraill i rannu arfer gorau a sicrhau darpariaeth gwasanaeth ar draws yr holl gyfarwyddiaethau.
  • Sicrhau bod proses rheoli cofnodion effeithiol yn cael ei datblygu a’i chynnal ar gyfer pob eitem sy’n deillio o gyfarfodydd a gohebiaeth rhwng cyfarfodydd a grwpiau amrywiol.
  • Ymdrechu i wella prosesau a gweithdrefnau'n barhaus er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.  
  • Arddangos y safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol.  
  • Meddu ar lefel uchel o ddylanwad ac effaith fewnol i sicrhau bod nodiadau briffio technegol a phapurau a baratowyd gan eraill yn cael eu cyflwyno yn y fformat cywir ac o fewn yr amserlenni sy’n ofynnol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Bydd yn ofynnol cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

  1. Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
  2. Rheolwr swyddfa neu ysgrifenyddiaeth profiadol gyda sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i gynllunio, trefnu a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol.
  3. Gallu dangos profiad o reoli tîm, gan gynnwys arweinyddiaeth tîm a datblygiad staff a rheoli perfformiad
  4. Sylw rhagorol i fanylion, yn enwedig gwaith ysgrifenedig a chopi er mwyn sicrhau bod papurau a chofnodion o'r safon uchaf.
  5. Gallu cyflawni yn unol â therfynau amser penodol a rheoli blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd
  6. Fel arfer bydd gan ddeiliad y swydd gymhwyster proffesiynol/technegol cydnabyddedig (gradd) neu brofiad cyfatebol.
  7. Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol a gallu gweithio gydag ystod o uwch staff, Cadeirydd, Prif Weithredwr, Aelodau'r Bwrdd a Chyfarwyddwyr - a dylai fod gennych set sgiliau ac agwedd ragorol ym maes gwasanaeth cwsmeriaid.
  8. Rhaid i'ch dull o ddarparu gwasanaeth fod yn broffesiynol, amserol, arbenigol ac o safon uchel.  
  9. Bydd angen sgiliau trefnu rhagorol arnoch er mwyn cyflwyno gwasanaeth i'r sefydliad, felly bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr hyderus a phroffesiynol a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  10. Hyfedredd ym mhob rhaglen Microsoft Office h.y, Word, Excel, PowerPoint ac Outlook.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf