Arbenigwr Cynefinoedd a Rhywogaethau Dŵr Croyw
Dyddiad cau: 18 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6, £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoli Pysgodfeydd ac Ecosystemau Dŵr Croyw, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026 gyda'r potensial ar gyfer estyniad neu o gael ei wneud yn barhaol, fodd bynnag, ni ellir gwarantu hyn
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau
Rhif swydd: 201417
Y rôl
Mae hon yn rôl genedlaethol sy'n darparu arbenigedd ar ecoleg dŵr croyw ledled Cymru. Mae'r rôl yn gosod cyfeiriad strategol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau afonol trwy ddatblygu strategaethau, polisïau a meysydd gwaith penodol. Mae'r rôl yn cynhyrchu ac yn cyfleu tystiolaeth i gyfarwyddo statws a thueddiadau ar draws ecosystemau dŵr croyw. Mae'r rôl yn darparu cyngor ar gyfer gwaith achos, ymholiadau gweithredol a materion trwyddedu yn ogystal â datblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r rôl yn gwneud cyfraniad cryf i reoleiddio gan gynnwys safleoedd a nodweddion gwarchodedig dŵr croyw ac atal difrod ffisegol i afonydd, llynnoedd a phyllau. Mae'r rôl yn arwain ar waith cadwraeth rhagweithiol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau afonydd trwy ddatblygu prosiectau a rhaglenni. Yn olaf, mae'r rôl yn arwain ar gysylltu â sefydliadau allanol perthnasol ynghylch diogelu afonydd yng Nghymru.
Mae'r rôl yn atebol i Arweinydd y Tîm Rheoli Ecosystemau Dŵr Croyw a Physgodfeydd, sy'n cynnwys nifer o arbenigwyr technegol sy'n darparu cyngor strategol a thystiolaeth ar draws sbectrwm eang o ecosystemau a rhywogaethau dŵr croyw gan gynnwys pysgodfeydd dŵr croyw. Mae'r tîm yn eistedd o fewn y Grŵp Dŵr a Natur ym Mholisi Rheoli Adnoddau Naturiol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Suzanne Hearn ar Suzanne.Hearn@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau
Amdanom ni
Mae'r rôl hon yn rhan o'r tîm Rheoli Ecosystemau a Physgodfeydd Dŵr Croyw. Mae hwn yn un o bedwar tîm yn y Grŵp Dŵr a Natur Cynaliadwy sydd yn yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol ac yna’r gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu (EPP). Byddwch yn gweithio yn y Tîm Rheoli Ecosystemau Dŵr Croyw a Physgodfeydd, sef tîm o arbenigwyr technegol sy'n darparu cyngor strategol a thystiolaeth ar draws sbectrwm eang o ecosystemau a rhywogaethau dŵr croyw gan gynnwys pysgodfeydd dŵr croyw.
Mae blaenoriaethau’r tîm a’r gyfarwyddiaeth yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol CNC hyd at 2030 o ran ‘Byd Natur wrthi’n Gwella’ a ‘Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf’, yn enwedig drwy gyngor ar gynllunio a chaniatáu, llywio ein gwaith monitro ac adrodd, datblygu prosiectau adfer, goruchwylio ein gwaith polisi pysgodfeydd dŵr croyw a chynnal Rhaglen Adfer Afonydd CNC. Rydym yn dîm agored a hawdd siarad â ni ac rydym yn gweithio'n effeithiol mewn ffordd integredig, yn fewnol ar draws EPP a Gweithrediadau i gyflawni buddion lluosog ar gyfer bioamrywiaeth, pysgodfeydd, hinsawdd a pherygl llifogydd ac yn allanol gyda'n rhanddeiliaid niferus.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data cymhleth.
- Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i gyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu dogfennau polisi, cyngor ac arweiniad CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
- Cydgysylltu â rhanddeilaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, CEFAS, cyrff amgylcheddol eraill, cyrff anllywodraethol yn y DU; a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
- Cynnal gwybodaeth am y maes arbenigol technegol sy'n ymwneud â chynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen
- Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â bioamrywiaeth; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU ym maes bioamrywiaeth; a'r problemau a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli amrywiaeth o wybodaeth amgylcheddol gymhleth a ffynonellau data; dadansoddi setiau data mawr.
- Gweithio gyda/mewn cyrff cadwraeth natur statudol, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol a chyrff cyhoeddus.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Level A1 – Entry level (able to use and understand simple, basic phrases and greetings, no conversational Welsh)
- Dymunol: Level A1 – Entry level (able to use and understand simple, basic phrases and greetings, no conversational Welsh)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.