Dyddiad cau: 14 Mai 2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Gweithdy Y Trallwng

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm yr Amgylchedd / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr r wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Dyddiad cyfweld: I'w gadarnhau

Rhif swydd: 200575

Y rôl

Mae Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) – sef pwrpas ein Sefydliad – wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gan bawb yn CNC rôl i’w chwarae wrth reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac o fewn hynny rôl CNC o ran sicrhau bod gwydnwch ecosystemau yn sail i les ehangach yng Nghymru.

Mae'r rolau Uwch Swyddogion hyn o fewn ardal Tîm Amgylchedd Gogledd Powys, un o'r tri Thîm Amgylchedd yn y Canolbarth. Mae ardal Tîm Amgylchedd Gogledd Powys yn gwasanaethu o ogledd y Trallwng sy’n cynnwys rhan o fynyddoedd y Berwyn, draw i Fachynlleth ac i lawr i’r A44 ac yn cynnwys Cwm Elan. Mae'r ardal yn cynnwys tarddiad Afon Hafren ac Afon Gwy ar Bumlumon uwchben Coedwig Hafren. Mae Canolbarth Cymru yn ardal hardd i weithio ynddi.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan flaenllaw ar sail lle i wella lles drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy gylch gwaith y tîm.  

Byddant yn canolbwyntio ar y materion/gwaith achos mwy cymhleth ac yn rhoi cyngor arbenigol yng nghyd-destun Rheolaeth Amgylcheddol yn bennaf a Safleoedd Gwarchodedig gyda rhai o fewn, Pysgodfeydd a Bioamrywiaeth.

Byddant yn gweithio'n agos gyda’r Arweinydd Tîm i sicrhau bod cylch gwaith Tîm yr Amgylchedd yn cael ei gyflawni'n effeithiol, gan fodloni amcanion CNC, Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a Llesiant. 

Byddant yn cefnogi'r Arweinydd Tîm mewn gwaith partneriaeth perthnasol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.  

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Liz Park

Liz.Park@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn nes ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru mewn trafodaethau gyda sefydliadau partner.
  • Gweithredu fel mentor technegol a chynghorydd i aelodau'r tîm.
  • Cynorthwyo arweinydd y tîm yn agos wrth gynllunio a chyflenwi’r rhaglen gydymffurfio a gwaith gorfodi. 
  • Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig. Lle nodir diffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith.
  • Lle nodir diffyg cydymffurfio, pennu a gweithredu'r ymyrraeth fwyaf priodol.  
  • Cydlynu datblygiad technegol aelodau o'r tîm.
  • Chwarae rôl allweddol o ran nodi cyfleoedd ar gyfer cytundebau rheoli a phrosiectau partneriaeth newydd i gyflenwi blaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lle.
  • Chwarae rôl uwch wrth gefnogi Gwasanaeth Rheoli Digwyddiadau cadarn a chymwys o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n dilyn prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau (dymunol).
  2. Dealltwriaeth gyffredinol o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gyda phrofiad wedi'i ganolbwyntio ar faes penodol o gylch gwaith tîm yr amgylchedd.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Gwybodaeth a phrofiad helaeth o brosesau rheoleiddiol a gorfodi.
  5. Trwydded yrru lawn sy'n gyfredol a dilys yn y DU i yrru cerbydau fflyd Cyfoeth Naturiol Cymru (ceir a faniau).

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf