Adroddiad dyletswydd partneriaeth 2025
Cyflwyniad
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymrwymo i ymgorffori egwyddorion partneriaeth gymdeithasol ym mhopeth a wnawn. I ni, nid yw partneriaeth yn gyfarfod sengl nac yn ofyniad gweithdrefnol. Mae’n ffordd o weithio sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth, bod yn agored, a chydweithio yn gynnar. Mae’n golygu sicrhau bod gan undebau llafur lais ystyrlon o gychwyn cyntaf y prosesau gwneud penderfyniadau a bod safbwyntiau staff yn llywio’r dewisiadau strategol a wnawn.
Mae’r adroddiad hwn, a baratowyd gan Emma Coward, Partner Busnes Adnoddau Dynol, ac a gytunwyd gydag undebau llafur cydnabyddedig CNC, yn nodi sut mae CNC wedi cydymffurfio â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Mae’n dangos sut rydym yn meithrin diwylliant lle mae llais gweithwyr yn ganolog i’r gwaith o gyflawni ein pwrpas a’n cyfrifoldebau fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.
Deall y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus penodedig, gan gynnwys CNC, i geisio consensws neu gyfaddawd gydag undebau llafur cydnabyddedig wrth osod amcanion llesiant ac wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch y camau sydd eu hangen i’w cyflawni. Rhaid i waith ymgynghori ddechrau ar gam ffurfiannol, ar bwynt lle gellir llunio a dylanwadu ar gynigion o hyd, a rhaid rhoi digon o wybodaeth ac amser rhesymol i undebau llafur ystyried y materion yn llawn.
Ochr yn ochr â hyn, mae adran 18 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynhyrchu a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar sut y mae’r ddyletswydd wedi’i chymhwyso. Rhaid paratoi’r adroddiad hwn mewn partneriaeth ag undebau llafur a’i gyflwyno i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Yn CNC, mae’r ddyletswydd wedi ffurfioli ffordd o weithio sydd, i raddau helaeth, wedi bod yn rhan o’n diwylliant sefydliadol ers tro byd – lle mae tryloywder, deialog a chyfranogiad wrth wraidd ein penderfyniadau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallwn wella’r Bartneriaeth Gymdeithasol ymhellach, er enghraifft trwy gynnwys Undebau Llafur yn gynharach yn y broses o wneud penderfyniadau strategol.
Ein trefniadau gweithio mewn partneriaeth
Mae gan CNC gytundebau partneriaeth hirsefydlog gyda phum undeb llafur ac rydym yn cynnal ymgysylltiad agos, cynhyrchiol a rheolaidd â nhw:
- UNSAIN
- Prospect
- PCS
- Unite
- GMB
Mae’r bartneriaeth hon wedi’i hymgorffori trwy ystod o fforymau sefydledig, pob un yn cynnig rôl ystyrlon i’r undebau llafur wrth lunio strategaeth, polisi, a newid sefydliadol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r undebau llafur wedi cyfrannu at ein cynllunio corfforaethol, gan gynnwys ein cynllun Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd. Dylai eu cyfranogiad sicrhau bod ein hamcanion llesiant yn adlewyrchu profiad bywyd staff ac yn pwysleisio tegwch, cynhwysiant a llesiant. Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar ddatblygu ein pedwerydd amcan llesiant, ‘Ein Cyfoeth Naturiol Cymru’, a bydd undebau llafur yn rhan o’r gwaith o’i lunio a’i roi ar waith.
Yn CNC, mae gennym ystod o fforymau sefydledig i gefnogi deialog strwythuredig ag undebau llafur sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
- Mae Cyngor y Bartneriaeth, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn darparu fforwm strategol ar gyfer trafod datblygiadau sefydliadol, materion ariannol a chyllidebol, a newidiadau deddfwriaethol cyfredol ac ar gyfer y dyfodol. Mae’r Prif Weithredwr a’r undebau llafur yn mynychu’r cyfarfodydd hyn. Mae’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol bellach yn eitem sefydlog ar yr agenda.
- Mae’r Fforwm Partneriaeth yn dwyn ynghyd undebau llafur ac adnoddau dynol i drafod materion sy’n effeithio ar bob cydweithiwr, o ddatblygu polisïau pobl a llesiant i gylchoedd cyflog, newidiadau o ran deddfwriaeth, a diweddariadau gan bobl allweddol sy’n arwain ar brosiectau ledled y sefydliad, megis yr adolygiadau o’r trefniadau rheoli ar gyfer llifogydd, y fflyd, a rotâu digwyddiadau.
- Mae Bwrdd y Bobl yn grŵp ymgynghorol sy’n cynnig lle i undebau llafur ddylanwadu ar strategaeth pobl, cynllunio’r gweithlu, a phrosiectau gweddnewid pobl, gyda chytundeb i gyflwyno rhai o’r pynciau hyn yn y Fforwm Partneriaeth.
Cyflwynir ymgysylltiad gweithredol drwy’r Fforwm Partneriaeth, sy’n cyfarfod bob chwe wythnos. Yma, mae Pennaeth Adnoddau Dynol, Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol a chynrychiolwyr undebau llafur yn ystyried polisïau pobl, cynigion newid, a materion yn ymwneud â’r gweithlu ar y cyd.
Mae cynrychiolwyr undebau llafur yn chwarae rhan weithredol mewn llawer o weithgorau a byrddau rhaglenni traws-sefydliadol.
Mae pob polisi a gweithdrefn pobl yn cael eu datblygu ar y cyd â’r undebau llafur cyn eu cymeradwyo, gan sicrhau bod materion neu bryderon yn cael sylw yn y gweithgor. Yn ystod y flwyddyn, dyma rai o’r materion a ystyriwyd o dan y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol:
- Adolygiad o’r fflyd – datblygwyd cynllun ymgysylltu ar y cyd ag undebau llafur i gefnogi’r pontio i gerbydau trydan a chael dealltwriaeth fanwl o’r goblygiadau i staff gweithredol.
- Adolygiad swyddfeydd – er mwyn cyflawni newid ar draws ein hystad, cefnogodd yr undebau llafur adleoli staff o’r swyddfa yng Nghaerdydd i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Roedd hwn yn brosiect cymhleth a heriol iawn a oedd yn cynnwys llawer o ddeialog a chyfarfodydd â’r undebau llafur i gael eu mewnbwn/syniadau i helpu i lunio’r ymarfer ymgynghori. Roedd llesiant staff a deialog agored yn ffactor allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn.
- Rhaglen Newid Sefydliadol – cefnogodd yr undebau llafur yr ymgynghoriad staff ar gyfer y Rhaglen Newid, gan gasglu adborth gan aelodau a bwydo hwn i’r uwch-reolwyr, rhannu platfform ar y cyd ag uwch-arweinwyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff am y newidiadau, a llunio cyfathrebiadau staff. Chwaraeodd undebau llafur rôl ganolog yn y Grŵp Gweithredu Newid a sefydlwyd i oruchwylio’r broses newid, gan sicrhau tryloywder a thegwch. Er y collwyd uwch aelodau staff hanner ffordd drwy’r Rhaglen, gweithiodd undebau llafur a staff adnoddau dynol yn dda gyda’i gilydd i oresgyn yr heriau hynny.
- Datblygiadau’r Bil Hawliau Cyflogaeth – datblygodd undebau llafur a Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol blaengynllun mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu adnoddau yn y maes hwn. Bydd adnoddau dynol yn parhau i fonitro datblygiadau ac yn rhoi adborth i’r Fforwm Partneriaeth.
- Ymgysylltu ag undebau llafur wrth ddatblygu’r weithdrefn ar gyfer dyrchafiadau dros dro, sy’n berthnasol i’r holl staff ar draws pob gradd, er mwyn sicrhau dull teg, cyson a thryloyw. Mae adolygiad chwe mis gyda phartneriaid yr undebau llafur wedi’i gwblhau.
Mae cyfranogiad parhaus undebau llafur yn sicrhau bod cynigion yn cael eu profi o safbwyntiau lluosog, bod risgiau’n cael eu nodi’n gynnar, a bod profiad staff yn cael ei adlewyrchu mewn atebion.
Nodweddir y bartneriaeth hon sy’n aeddfedu gan ei natur agored, ymgysylltiad cynnar, ac ymrwymiad ar y cyd i wneud penderfyniadau sy’n cefnogi ein hamcanion sefydliadol a llesiant cydweithwyr.
Codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau clir i helpu cydweithwyr ar draws CNC i ddeall y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a’r hyn y mae’n ei olygu i’w gwaith. Bydd ein hundebau llafur cydnabyddedig yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant cenedlaethol a ddarperir gan y TUC, gan gryfhau dealltwriaeth gyfunol o’r Ddeddf a meithrin hyder wrth gymhwyso ei hegwyddorion.
O fewn CNC, bydd modiwl e-ddysgu newydd yn cael ei lansio ar ein platfform Dysgu i gefnogi dealltwriaeth staff o’r ddyletswydd. Bydd y modiwl yn amlinellu beth mae partneriaeth gymdeithasol yn ei olygu yn ymarferol a sut mae’n cyd-fynd â’n gwerthoedd. Mae briffiau eisoes wedi’u cyflwyno i’r timau gweithredol ac arwain, ac yn gynnar yn 2026 bydd cadeirydd ac aelodau Bwrdd CNC hefyd yn cael sesiwn friffio.
Ein nod yw i’r ddyletswydd ddod yn rhan o hunaniaeth a diwylliant ein sefydliad – disgwyliad a rennir bod cydweithio, tryloywder a chydgynhyrchu yn llywio pob penderfyniad mawr a wnawn. Ddechrau’r flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu a gweithredu cynllun gweithredu ar y cyd i olrhain cynnydd.
Mae CNC wedi sicrhau gwirfoddolwyr Hyrwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol i gefnogi’r sefydliad i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol a’i hegwyddorion craidd ymhellach.
Astudiaeth achos – partneriaeth gymdeithasol ar waith: symud o swyddfa Caerdydd
Mae’r broses o adleoli o Dŷ Cambria (Heol Casnewydd) i Barc Cathays 2 o dan raglen adnewyddu Adfywio yn enghraifft bwerus o sut olwg sydd ar bartneriaeth gymdeithasol yn ymarferol.
Ysgogwyd yr adleoli gan awydd i ailddychmygu ein hystad yn dilyn pandemig COVID-19 ac i ddylunio mannau gwaith modern a hyblyg sy’n cefnogi llesiant, cydweithio a chynaliadwyedd. Mae safle Parc Cathays 2 yn cynnig cyfleusterau gwell, gan gynnwys ystafelloedd cyfarfod, mannau cydweithio, ffreutur, a mannau wedi’u cynllunio i gefnogi gweithio hybrid.
Nid y gyrchfan yn unig yw’r hyn sy’n sefyll allan, ond y ffordd y cyflwynwyd y newid. O’r cychwyn cyntaf, roedd undebau llafur yn rhan o ddiffinio’r dull gweithredu, llunio’r ymgynghoriad, a gweithio gyda chydweithwyr adnoddau dynol a chyfleusterau i ddeall a mynd i’r afael â phryderon staff. Sicrhaodd eu mewnwelediad fod llesiant, hygyrchedd a thegwch yn cael eu cadw wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn hytrach na chael eu trin fel ystyriaethau eilradd.
Chwaraeodd cynrychiolwyr undebau rôl allweddol mewn llywodraethiant, gan eistedd ar Fwrdd Prosiect Adeiladau Caerdydd, byrddau fflyd a chyfleusterau, a’r Grŵp Gweithredu Newid. Cryfhaodd eu cyfranogiad ymddiriedaeth staff, gan helpu i lunio mesurau lliniaru a chefnogi pontio mwy cydgysylltiedig.
Roedd ymarfer gwersi a ddysgwyd a gynhaliwyd ar ôl y symud yn adlewyrchu boddhad uchel â’r broses a phwysleisiodd fod gweithio mewn partneriaeth yn gynnar ac mewn modd gonest a pharhaus wedi gwella profiad a hyder staff yn sylweddol mewn perthynas â’r newid. Mae’r astudiaeth achos hon yn tynnu sylw at sut mae partneriaeth gymdeithasol yn helpu CNC i reoli newidiadau sefydliadol beiddgar mewn ffordd feddylgar a thryloyw sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Edrych i’r dyfodol: cryfhau partneriaeth gymdeithasol
Wrth i ni symud ymlaen i 2026, byddwn yn parhau i gryfhau partneriaeth gymdeithasol ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys darparu mwy o gyfleoedd i undebau llafur fod yn rhan o gamau cynharaf y broses o osod amcanion llesiant ac wrth lunio’r camau rhesymol sy’n deillio ohonynt. Rydym yn cydnabod bod cynnwys unigolion yn gynnar yn arwain at benderfyniadau gwell, ac rydym wedi ymrwymo i ymgorffori’r egwyddor hon ledled y sefydliad.
Fel rhan o’n hymrwymiad i’r fenter Hyrwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol yn y Gweithle, rydym yn mynd i weithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, y cawsom ein paru â hwy, i geisio arferion gorau a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Rydym hefyd yn bwriadu adolygu strwythur a phwrpas ein cyfarfodydd partneriaeth i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ystyrlon, yn amserol ac yn effeithiol. Ein nod yw cynnal y diwylliant “drws agored” sydd wedi dod yn nodwedd amlwg o’r berthynas rhwng CNC ac undebau llafur, lle mae cynrychiolwyr undebau llafur yn teimlo’n hyderus yn codi materion yn uniongyrchol gydag adnoddau dynol, rheolwyr ac uwch-arweinwyr, gan wybod y bydd eu safbwyntiau’n dylanwadu ar benderfyniadau.
Drwy’r ymrwymiad parhaus hwn, ein nod yw cefnogi CNC yn ei genhadaeth i helpu natur ac unigolion i ffynnu gyda’i gilydd, gan sicrhau bod ein penderfyniadau sefydliadol yn parhau i fod yn deg, yn gynhwysol, ac wedi’u seilio ar ein cyfrifoldeb ar y cyd i’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Casgliad
Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu blwyddyn o bartneriaeth gadarnhaol, gynhyrchiol ac aeddfed rhwng CNC a’n hundebau llafur cydnabyddedig. Mae’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol wedi darparu fframwaith sy’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i ymgysylltu ystyrlon, ond mae’r sylwedd yn dod o’r diwylliant rydym yn parhau i’w adeiladu – un o fod yn agored gyda pharch a phwrpas cyffredin.
Mae CNC yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gan ddilyn ysbryd y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn ogystal â’r amodau penodol ynddi. Byddwn yn parhau i gynnwys, ymgynghori a chydweithio, gan sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu llywio gan fewnwelediad a phrofiad cyfunol ein gweithlu. Drwy’r dull hwn, byddwn yn cryfhau ymddiriedaeth, yn cefnogi llesiant, ac yn cyflawni deilliannau gwell i bobl, cymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.